google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Reform ddim yn diarddel y cyn-arweinydd Dan Thomas ar ôl iddo gael ei arestio

Ni fydd aelodau llawr gwlad Reform yng Nghymru yn cael pleidlais ar bwy fydd yn olynu’r cyn-arweinydd Dan Thomas, yn ôl Llŷr Powell.

Y gobaith, meddai, yw y bydd yna arweinydd newydd erbyn diwedd y mis, ac mae’r blaid “yn symud yn gyflym i ddychwelyd at y gwaith arferol, gan fod materion pwysig y mae angen eu trafod”.

Daeth y newyddion bod Dan Thomas wedi cael ei arestio i’r amlwg tua’r un pryd â chyhoeddiad ar wahân gan yr Aelod o’r Senedd dros Reform, Sarah Cooper-Lesadd, ei bod wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Powell na chafodd yr un o arweinwyr y grwpiau eraill yn y Senedd eu hethol gan eu haelodau.

“Felly does dim gwahaniaeth yn hynny o beth, ond mae gennym ni gyfansoddiad. Rydym yn ei ddilyn.

“Gall enwebiadau ddechrau, ac rwy’n hyderus y bydd y broses hon wedi’i chwblhau erbyn diwedd y mis fel y gallwn ganolbwyntio unwaith eto ar yr hyn sy’n flaenoriaeth.”

Dywedodd mai’r flaenoriaeth honno yw “pobl Cymru a dwyn y llywodraeth hon i gyfrif oherwydd y pethau brawychus maen nhw’n eu gwneud ar hyn o bryd”.

“Nid mater o ymddiriedaeth sydd yma. Y mater yw bod ein haelodau eisiau i ni fwrw ymlaen â’r bleidlais, â’r gwaith sydd wrth law.”


BBC News

Advertisements

See also  Swansea City announce shake-up to backroom staff

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime