google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tafarn Y Glôb: Chwilio am weithredwr newydd i’w hailagor

“Dwi’n drist dros ben. Dwi ‘di bod yn mynd yno ers blynyddoedd i ganu a chymdeithasu, ac mae’r lle ‘ma’n meddwl y byd i fi. Mae gen i gymaint o atgofion da.

“Mae o’n gymaint mwy na jest tafarn – mae o’n ganolbwynt i Fangor Uchaf, ac yn lle mor bwysig i’r fyfyrwyr ond hefyd i bobl lleol fel fi!”

“Dwi’n aml yn mynd i’r nosweithia’ gwerin ac mae gen i atgofion melys iawn o ganu yno, a phawb yn canu nerth ein penna tan berfeddion nos, neu nes i’r gloch ganu!”

Mae lluniau o’r nosweithiau hynny wedi cael eu tynnu ers dros 25 mlynedd, meddai.

“Da ni’n lwcus iawn bod ‘na lunie i ni allu edrych nôl arnyn nhw, achos mae’r atgofion ‘na ar gof a chadw wedyn.”

“Dwi’m yn meddwl bod pobl yn deall faint o hanes sydd ‘di digwydd o fewn y pedair wal ‘na.

“Mae’r lle ‘ma wedi meddwl cymaint i fi nes i mi fynd ati i sgwennu cân amdano fo. ‘Cyn i’r lle ‘ma gau’ oedd honno, gyda Y Bandana, ac mae hi’n eitha’ eironig a chwerwfelys i feddwl amdani hi rŵan.”


BBC News

Advertisements

See also  County Championship: Glamorgan in driving seat against Warwickshire

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime