google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pennaeth iechyd yn ymddiswyddo ar ôl gwallau cyfrifo ‘bwriadol’

Gan gyfeirio at y staff sy’n dal yn destun ymchwiliad dywedodd Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ogledd Cymru: “Bydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru’n synnu ein bod ni bron i ddwy flynedd ers i’r sgandalau yma dorri ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw un wedi ei gael atebol am y methiannau sydd wedi digwydd.

“Nid yw’n ddigon da, mae angen i ni ddatrys pethau’n gyflymach, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn o ystyried bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig.”

Cafodd BIPBC eu rhoi yn ôl o dan fesurau arbennig, y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, yn fuan ar ôl ymadawiad Ms Hill.

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth BBC Cymru nad oedden nhw na Sue Hill eisiau ymateb i sylwadau Llyr Gruffydd a Darren Millar ac nad oedd ganddyn nhw sylw pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hwn yn fater cyflogaeth ac felly mater i’r bwrdd iechyd ydy hyn.”


Source link

Advertisements

See also  Sïon am ddyfodol Wylfa yn achosi 'rhagor o ansicrwydd'

Check Also

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn beirniadu Plaid Cymru am wthio annibyniaeth

“Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy – i fwrw ymlaen gyda’r llywodraethu,” …

Y rhedwraig o Ben Llŷn sy’n casau rhedeg

Dechreuodd Kelly redeg ar ôl colli ei mam i ganser y pancreas yn 2015, meddai: …

'Diagnosis i'n babi fel dringo mynydd, ac mae taith hyd yn oed yn fwy i ddod'

Dim ond tri pherson sy’n dioddef o’r un cyflwr â Rupert yng Nghymru a 1,500 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime