google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arnhydeddu’r gantores Mary Hopkin am ei ‘dylanwad parhaol’

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa fel cantores yn ei harddegau, gan berfformio ar gyfres adloniant Gymraeg Hob y Deri Dando gan BBC Cymru yn y 1960au.

Daeth i sylw’r fodel ryngwladol Twiggy ar ôl perfformio ar sioe ddoniau ‘Opportunity Knocks‘ ar ITV.

Ar ôl cael ei hargymell wedyn i Paul McCartney, daeth y gantores ifanc yn un o’r artistiaid cyntaf i gael eu harwyddo gan Apple Records – y label gafodd ei sefydlu gan The Beatles.

Cafodd ei sengl gyntaf, a gynhyrchwyd gan McCartney, ‘Those Were The Days‘, lwyddiant byd-eang, gan gyrraedd brig siartiau’r Deyrnas Unedig, gwerthu dros 8 miliwn o gopïau ledled y byd, a chyrraedd rhif 2 yn yr Unol Daleithiau – gyda chân y Beatles ‘Hey Jude‘ ar y brig.

Yn fuan wedyn, rhyddhawyd ei halbwm gyntaf ‘Postcard‘, oedd hefyd wedi’i chynhyrchu gan McCartney, gyda sêr fel Jimi Hendrix, Brian Wilson ac Eric Clapton yn ymuno â McCartney yn y parti lansio yn 1969.

Mae gyrfa Mary Hopkin yn cynnwys bod yn llais cefndir ar albwm eiconig David Bowie ‘Low‘, llais ar drac sain ‘Vangelis’ i ffilm ‘Blade Runner’ o 1982, enwebiad am wobr Grammy, a chynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth yr Eurovision gyda ‘Knock Knock, Who’s There?’, lle daeth yn ail.


BBC News

Advertisements

See also  Pink in Cardiff: Travel warning as Summer Carnival tour restarts

Check Also

Adran Premier: TNS score late winner to end Wrexham’s 100% record

Sunday, 4 October Wrexham 2-3 The New Saints The New Saints ended Wrexham’s perfect start …

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime