google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0-1 Denmarc

Roedd angen ymateb chwim gan Ethan Ampadu reit ar ddechrau’r ail hanner i atal rhediad gan Mohamed Daramy ochor chwith y maes.

Ychydig funudau wedyn roedd angen ymateb yr un mor gyflym gan y golwr Danny Ward.

Cysylltodd Andreas Skov Olsen â chroesiad hir o hanner Denmarc, a chroesi wedyn o’r dde i ganol y cwrt cosbi at Rasmus Hojland.

Tarodd yntau’r bêl at Ward, a neidiodd yntau gan sicrhau bod y bêl yn taro’i goes chwith ac i ddiogelwch ytn hytrach nag i gefn y rhwyd.

Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, roedd yna arbediad gwell fyth yn fuan wedyn pan wibiodd i’w dde i ddargyfeirio peniad Joakim Maehle i’r postyn ac allan o’r maes.

Cafodd Sorba Thomas ambell gyfle addawol cyn camgymeriad trychinebus Ward.

Gyda rhyw 20 munud yn weddill ar y cloc, wedi croesiad aflwyddiannus gan Hojlund, fe ddylai wedi bod yn fater hawdd iddo gicio’r bêl o’r cwrt chwech i fyny’r cae.

Ond fe giciodd yn wael i gyfeiriad Isaksen, ac wrth geisio wneud yn iawn am y peth fe ataliodd y chwaraewr gan ildio cic o’r smotyn.

Cadarnhaodd VAR bod yna drosedd ac fe sgoriodd Hojlund yn hawdd ar ôl aros i weld i ba gyfeiriad oedd y golwr am symud.


BBC News

Advertisements

See also  Wrexham start pre-season tour with impressive win over Melbourne Victory

Check Also

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Cardiff Half Marathon: Joyciline Jepkosgei sets new record

Kenya’s Joyciline Jepkosgei set a new women’s course record when winning the 2026 Cardiff Half …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime