google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Y rhedwraig o Ben Llŷn sy’n casau rhedeg

Dechreuodd Kelly redeg ar ôl colli ei mam i ganser y pancreas yn 2015, meddai: “‘Nes i benderfynu bod fi isio gwneud rhywbeth i hel pres at Pancreatic Cancer Action UK a ges i ryw syniad gwirion am redeg Marathon Llundain.

“O’n i ‘mond newydd gael babi rhif pump a ges i le pan o’n i ddim wedi disgwyl cael lle.

“Y pella’ o’n i ‘di gwneud oedd 5km ar y pryd ond ges i le a ‘nes i actually treinio i hwnnw er mai dim ond naw wythnos oedd gen i achos ‘mod i wedi cael lle munud olaf gan fod rhywun ‘di disgyn allan.

“A wedyn, ‘swn i ddim yn deud bod fi ‘di cael y bug rhedeg, ond ‘nes i enjoio hwnnw, yr awyrgylch a phob dim arall. O’dd o jest yn briliant.”

Cwblhaodd Kelly y marathon mewn rhyw bump awr: “Dw i’n meddwl bod y ffaith bod fi’n gwneud o er cof am Mam ‘di cario fi drwy hwnna i ddweud y gwir.”

Mi wnaeth colled teuluol arall arwain at Kelly’n parhau i redeg er mwyn codi arian at achosion da: “Wnes i golli ‘mrawd wedyn yn sydyn so ‘nes i redeg yr ail marathon Llundain i Asthma and Lung UK yn 2023.

“Yn y blynyddoedd cyntaf o redeg, o’n i’n hel pres at ganser ond mae’n job hel pres o hyd so ‘dan ni’n gwneud o i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas erbyn hyn.”

Mae Kelly a’i gŵr wedi codi dros £20,000 at achosion da erbyn hyn ac mae rhedeg hefyd wedi ei helpu gyda’r galar: “Er bod fi’n casau o mae o’n helpu. Ac hefyd pan ti’n mynd allan a rhedeg, mae o’n helpu efo iechyd meddwl.

“Ac mae’n rhoi rhyw fath o ffocws. Ac oeddwn i’n gwybod fod ‘na bobl wedi rhoi pres ac oedd rhaid ti gyrraedd y diwedd wedyn.

“A ti’n falch am gyrraedd y diwedd.”


BBC News

Advertisements

See also  Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 19-24 Yr Alban

Check Also

Firelighter storage site near homes in Rhosesmor awaits go-ahead

Plans to build a warehouse intended to hold up to 600 tonnes of firelighters near …

Rhys Maher: O guro drysau Casnewydd i ganfasio yn Georgia, UDA

Roedd partner Rhys Maher, Caitlyn Gegen, yn ymgeisydd dros y Democratiaid yn Georgia ar noson …

Tribute to ‘gentle’ woman as man charged with Llandudno murder

A family have paid tribute to a “gentle” woman who was found dead at a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime