google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 19-24 Yr Alban

Advertisements

Roedd ‘na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

19-24 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wrth i’r gwrthwynebwyr sgorio tri chais yn erbyn tîm Sean Lynn.

Roedd y tîm cartref 12 pwynt i 10 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn ceisiau gan Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu.

Fe diriodd Shona Campbell a Lucia Scott yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Alban wedi cais gan Chloe Rollie yn yr hanner cyntaf – gyda Kate Williams yn ceisio i Gymru.

Roedd perfformiad y cloewr ifanc Jorja Aiono yn ei gêm ryngwladol cyntaf yn elfen bositif i Gymru, ac fe ddaeth Maisie Davies, Alaw Pyrs, Molly Reardon, Donna Rose, Seren Lockwood a Georgia Evans i’r maes yn yr ail hanner.

Bydd tîm merched Cymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc nesaf yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, 18 Ebrill.


BBC News

Views: 2

See also  Dau wedi eu cyhuddo ar ôl canfod corff menyw oedd ar goll

Check Also

Prisoner guilty of planning Talbot Green murder from his cell

Ten people, found guilty over two trials, will be sentenced in connection with the murder …

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins, cadeirydd y panel beirniaid: “Wrth ddathlu pen-blwydd gwobrau Tir na n-Og …

Louis Wain paintings found in skip sells for £16,000

Paintings were hung in a couple’s home for years before they learned who had painted …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.