google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Advertisements

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Lois – sy’n wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor – yw’r ferch gyntaf i ennill dwy gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd, wedi iddi ennill cadair Eisteddfod Maldwyn yn 2024.

Y tro diwethaf i unrhyw un ennill dwy gadair yr Urdd oedd Gwynfor Dafydd yn 2016-17.

Mae Lois ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn Y Wladfa ym Mhatagonia.

Mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd y Garnedd ym Mangor, ble enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf.

Aeth i Ysgol Tryfan ym Mangor ac Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn graddio o brifysgol LSE mewn Anthropoleg Gymdeithasol.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Nanw Maelor o’r Wyddgrug, gyda Steffan Rhys Nicholas o Aberystwyth yn drydydd.


BBC News

See also  Swansea City: Goalkeeper Jon McLaughlin heads to Wales

Check Also

Aberystwyth University pauses £43m Old College upgrade

Plans to turn the first home of the University of Wales into a tourist destination …

Rex Hayes : ‘Ni angen Ted Lasso yn y byd heddiw’

Roedd y clyweliadau i gael y rhan yn heriol ond mi oedd gan Rex un …

Oedi gwaith adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth wrth i gostau ‘gynyddu’n sylweddol’

Mae’r cynllun uchelgeisiol yn cynnwys gofod ar gyfer gwesty pedair seren, ac ardaloedd ar gyfer …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime