google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sïon am ddyfodol Wylfa yn achosi ‘rhagor o ansicrwydd’

Ym mis Mai eleni fe gyhoeddodd llywodraeth geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr, gyda’r llywodraeth yn prynu’r safle yn gynharach yn y flwyddyn.

Ond yn ôl adroddiadau yn y Telegraph dros y penwythnos. mae Ed Milliband wedi gofyn i weision sifil adolygu’r cynllun gyda sôn ei fod yn ffafrio adweithyddion llai allai gynhyrchu ynni yn gynt.

“Ma’n fwy o ansicrwydd”, meddai Llinos Medi AS.

“Dyma mae trigolion yr ynys wedi byw efo ers dros ddegawd a dyna pam dwi’ ‘di bod yn erfyn ar y llywodraeth i roi sicrwydd i ni.

“Beth bynnag ydi’r penderfyniad, ‘da ni angen gwybod… os ydyn nhw am fynd am orsaf fechan neu am orsaf fawr ar yr ynys.

“’Da ni ‘di cael yr oedi ac yn byw drwy boen yr oedi ers degawd”.


Source link

Advertisements

See also  Cardiff City: Barry-Murphy urges winless Bluebirds to be 'more ruthless'

Check Also

Burnham’s devolution plan won’t work in Wales, ex-minister says

Former Welsh local government minister Alun Davies told Radio Wales Breakfast on Monday he was …

John Lewis – ‘un o gewri byd cyhoeddi Cymru’, wedi marw

Yn ystod cyfweliad ar Beti a’i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am …

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime