google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merthyr Tudful: Pam bod cymaint o bobl ifanc yn aros yn fy nhref i?

1749532680 50ebde60 42be 11f0 93dd 9f3a34381ccc.png

Advertisements

Dywedodd pennaeth chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun, Gareth Jones, er bod cyrchfannau prifysgol yn amrywio bob blwyddyn, mae’r ysgol wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis mynychu prifysgol.

Yn ôl Mr Jones, “goblygiadau ariannol” yw’r rheswm.

Ychwanegodd, i nifer o fyfyrwyr o Ferthyr a’r cymoedd, mae gwell ganddyn nhw aros yn agos at adref i fynd i’r brifysgol, a mynd i lefydd fel Caerdydd neu Abertawe.

Dywedodd: “I rai, mae hyn yn ddigon pell i ffwrdd i ddianc rhag rhieni, ond digon agos so mae mam a dad yn agos os maen nhw angen unrhyw help.

“Rwy’n siarad â llawer o brifysgolion gwahanol ac mae’n ymddangos bod cysylltiadau teuluol rili, rili agos yn y cymoedd nad ydych chi o reidrwydd yn ei gael mewn ardaloedd Saesneg.

“Mae ‘na bendant rhywbeth am y cymoedd ac am ardal ni ym Merthyr ble mae teulu’n hynod o bwysig.

“Mae’n myfyrwyr ifanc ni yn teimlo rili agos at eu teulu, ac nid jest rhieni, ond brodyr a chwiorydd, mam-gu a tad-cu, ac mae’r syniad o adael y teulu yn rhywbeth maen nhw’n pendroni am lot wrth iddyn nhw wneud y penderfyniad.”


BBC News

Views: 0

See also  Rhondda Cynon Taf school reopens to give support after pupil dies

Check Also

Welsh language policy has been misunderstood, says council

Councillors have criticised “negative” press reports, arguing the new policy will help staff to “upskill”. …

Sylw ‘Welsh lad?’ Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage …

Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Gemau olaf cynghrair bêl-droed Lloegr, ffeinal gemau ail gyfle’r Cymru Premier a rownd gynderfynol Cwpan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Promo menarik pion777, menang berapapun pasti di bayar.