google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Martin Clunes i feirniadu yn y Sioe Fawr eleni

Mae’r gystadleuaeth fawreddog yn coroni’r ceffylau a’r merlod gorau gyda miloedd yn ceisio cipio’r wobr.

Ychwanegodd Nicola Davies: “Mae tua 2500-3000 o geffylau yn y catalog, felly mae angen dewis y gorau o’r miloedd yna. Mae’n dipyn o fraint ac mae’n dipyn o gyfrifoldeb, ond mae pob beirniaid hyd yn hyn wedi mwynhau.

Mewn datganiad yn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Martin Clunes ei bod hi’n “fraint fawr cael fy ngwahodd i feirniadu.

“Mae’r sioe yn un o uchafbwyntiau’r calendr amaethyddol a marchogaeth, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld safon uchel y ceffylau fydd yn cael eu harddangos,” meddai.

Bydd y sioe eleni yn cael ei chynnal yn Llanelwedd rhwng 21-24 o Orffennaf, ac yn ôl Nicola mae’r trefniadau yn prysur fynd yn eu blaenau, ac fe soniodd pa mor falch oedden nhw fel cyngor fod Martin Clunes wedi cytuno i feirniadu yno eleni.

“Dwi’n credu mai ni yw’r sioe gyntaf sydd wedi ei gael i feirniadu, mae’n sioe sy’n adnabyddus iawn, ac os y’ch chi mo’yn beirniadu’r gorau, mae’n rhaid i chi ddod i Sioe Frenhinol Cymru, wrth gwrs.”


BBC News

Advertisements

See also  Llŷn: Cwt elusennol Mair yn cyrraedd carreg filltir

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime