google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mam yn diolch i ddau ddyn am achub ei babi naw mis oed o’i char oedd ar dân

Advertisements

Roedd y weldiwr, Mr Beynon, yn gyrru yn ôl i’w weithdy pan sylweddolodd ef a’i ewythr, y ddau o Ferthyr Tudful, fod car ar dân ar ochr yr hewl.

Dywedodd Mr Beynon bod menyw wrth ymyl drws y teithiwr “yn amlwg mewn trallod”, yn sgrechian bod ei babi yn y car.

Aeth ymlaen i esbonio ei fod wedi llwyddo mynd mewn i’r car drwy ochr y gyrrwr gan agor drws y teithiwr a datgloi’r harnais oedd o gwmpas y babi.

“Aeth fy ewythr draw i’r ochr arall a chymryd y babi allan” meddai.

“Oedd fflamau i’w gweld pan aethon ni i mewn i’r car. O’n i’n gallu eu gweld nhw drwy’r windscreen.

“Oedd e’n eitha’ brawychus i fod yn onest.”

Yn syth ar ôl iddyn nhw gael y babi allan aeth y car ar dân esboniodd.

“Tua 30 eiliad i funud wedyn oedd y car mewn fflamau.

“O’n i yn y lle cywir ar yr adeg cywir.”

Ar ôl y digwyddiad fe ddywedodd Mr Willding, 58, na fydddai byth wedi gadael tan bod y babi allan o’r car yn ddiogel.


BBC News

Views: 4

See also  Eluned Morgan: Country first, party second, pledges first minister

Check Also

Ateb y Galw: Gwion Ellis

Gŵr ifanc o’r Bala yw Gwion Ellis. Mae’n baffiwr amatur, yn rhedwr ac yn un …

Iawndal wedi’i wrthod am yr eildro i ddyn gafodd ei garcharu ar gam

Ar ôl cael ei wrthod am iawndal yn 2024, arweiniodd Ben Lake, AS Ceredigion Preseli, …

Anrhydeddu dynes 104 oed sy’n parhau i fynd i’r capel

Ers yn blentyn mae’r capel yng Nghefngorwydd wedi bod yn bwysig i Annabelle Thomas a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants. These are shared with google adwords / google ads when the google ads and google analytics accounts are linked together. bluetooth product reviews.