google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Anrhydeddu dynes 104 oed sy’n parhau i fynd i’r capel

Ers yn blentyn mae’r capel yng Nghefngorwydd wedi bod yn bwysig i Annabelle Thomas a braint iddi oedd yn ddiweddarach cael ei hethol yn flaenores yno.

Bellach hi yw’r unig aelod o’r capel sy’n mynychu’n rheolaidd.

“Wi’n cofio mynd i’r capel, bwti pump oed falle, gyda’r teulu – a’r Ysgol Sul, wrth gwrs a’r cwrdd nos. Dyna oedd y man cymdeithasu gan bod unlle arall i fynd,” meddai.

“Fi’n joio pregeth – o’dd pregethau da iawn slawer dydd. Roedd lot yn dechre yn dawel, dawel ac fel o’n nhw’n mynd mlan o’n nhw’n mynd i hwyl.

“Un felly oedd y Parchedig Philip Jones – o’dd e’n bregethwr enwog. Fi’n cofio ei glywed yn Llanwrtyd. O’dd tipyn o theatr a sŵn gydag e wrth draddodi.

“Wi’n cofio hefyd y gymanfa yma – y plant yn cael eu holi yn y bore, ac yn y pnawn yr oedolion yn cael eu holi o’r ysgrythur. Roedden nhw’n arguo a ddim yn cytuno wastad ac yna yn y nos y gymanfa ganu.

“Cofio hefyd mynd lawr i’r lake – y llyn yn Llanwrtyd – wedi’r cwrdd nos. Fanno oedd y man cyfarfod ac ro’dd ‘na lot o sbort.”


BBC News

Advertisements

See also  Bridgend man guilty of murdering his wife Tracey Davies

Check Also

We bought a one-way ticket to travel the world with our children

After selling their house at the start of the year, they lived in rented accommodation …

Dragons 31-38 Ospreys: Visitor secure first URC win of season in Welsh derby thriller

Dragons: Anderson; Dyer, Paea, Owen, Tuitavuki; de Beer, Hope; Martinez, Dee, Hunt, S Davies, Carter …

Wales must improve after Women’s World Cup play-off win in Albania – Rhian Wilkinson

Rhian Wilkinson accepted Wales must raise their standards after they scraped to a 1-0 victory …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime