google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Iawndal wedi’i wrthod am yr eildro i ddyn gafodd ei garcharu ar gam

Ar ôl cael ei wrthod am iawndal yn 2024, arweiniodd Ben Lake, AS Ceredigion Preseli, ddadl ar y mater yn San Steffan.

Cafodd achos Mr Buckle ei grybwyll yn Nhŷ’r Cyffredin, a dywedodd y cyn-Weinidog cyfiawnder Alex Davies-Jones ei bod eisiau adfer ei ffydd yn y system cyfiawnder troseddol.

Pan gytunodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder i adolygu’r cais am iawndal, roedd Mr Buckle, ei fargyfreithiwr a Mr Lake yn obeithiol y byddai’r gefnogaeth hynny gan y llywodraeth yn gwneud gwahaniaeth.

Ond ym mis Ebrill, fe benderfynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, er gwaethaf adolygiad pellach, nad oedd ei achos yn bodloni’r meini prawf statudol ar gyfer cael iawndal.

Er dryswch i’r teulu, ychwanegodd eu llythyr eu bod yn “pwysleisio nad yw’r penderfyniad hwn yn effeithio ar y ffaith bod euogfarn Mr Buckle wedi’i diddymu, nac yn bwrw amheuaeth ar ganlyniad yr apêl”.

Dywed Ben Lake mai dyma un o’r anghyfiawnderau cliriaf iddo weld yn ei naw mlynedd fel AS.

“Dydw i ddim am adael hyn i fod,” meddai. “Os yw hynny’n golygu fy mod i’n llusgo gweinidogion i Dŷ’r Cyffredin neu neuadd San Steffan, a chyflwyno cwestiynau nes eu bod o’r diwedd yn gwneud y peth cywir, mi w’nai.”

Mewn datganiad, dywedodd Ms Davies-Jones, AS Pontypridd, ei bod yn ddrwg ganddi glywed bod cais Mr Buckle wedi ei wrthod eto, gan ddweud bod cwestiynau ehangach ynghylch y cynllun iawndal presennol.


BBC News

Advertisements

See also  Man died after being bitten by dogs, inquest told

Check Also

Rare humpback whale spotted on Pembrokeshire coast

Lloyd Nelmes, an aquarium manger and marine project officer with Sea Trust Wales, spotted a …

Cymru Premier: Connah’s Quay end Penybont’s unbeaten run as TNS hit nine

The New Saints extended their lead at the top of the table as they maintained …

Wales v Denmark: Norway win a ‘hand grenade’ in Nations League group – Craig Bellamy

“Basically the group’s exploded now between the three of us because obviously Denmark will look …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime