google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lleihau dedfryd menyw wnaeth achosi marwolaeth babi wyth mis oed

Advertisements

Yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, fe ddywedodd Mr Ustus Butcher – un o’r tri barnwr ynghyd â Mr Ustus Bean a Richard Marks KS – fod yr achos yn un “wirioneddol drasig”.

“Rydym wedi darllen datganiadau personol rhieni Mabli, yn sôn am eu galar yn sgil marwolaeth eu merch, a ni all unrhyw un beidio â chydymdeimlo â nhw wedi’r golled ofnadwy yma,” meddai.

Wrth gadarnhau ei fod yn lleihau’r ddedfryd, dywedodd Mr Ustus Butcher: “Mae’n wir nad oedd yr apelydd wedi ceisio achosi unrhyw niwed, ac yn wir hefyd mai camgymeriad sydyn iawn oedd hwn, ond mae’r achos bendant yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gyrru peryglus.”

Ychwanegodd y byddai Curtis yn ymwybodol ei bod wedi stopio “mewn ardal brysur y tu allan i ysbyty gyda’r posibilrwydd bod unigolion bregus o’i chwmpas”.

Dywedodd hefyd ei fod yn derbyn fod Curtis wir yn edifar am yr hyn ddigwyddodd ac mai “diffyg canolbwyntio a dryswch ynglŷn â pha bedal yr oedd hi’n ei wasgu wnaeth achosi’r trasiedi yma”.

Yn ogystal â lleihau’r ddedfryd o bedair blynedd o garchar i dair, cafodd ei gwaharddiad rhag gyrru ei gynyddu o chwe blynedd i saith mlynedd a hanner.


BBC News

Views: 0

See also  General election: Undelivered Penarth postal ballots worry councils

Check Also

Teyrnged i ymgyrchydd canser a'r fam 'fwyaf caredig, llawn cariad a chryfder'

Ymgyrchydd o Ynys Môn sydd wedi’i disgrifio fel “y person mwyaf caredig, llawn cariad a …

Traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai wedi i Bont y Borth gau eto

Mae traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai wedi i gerbyd dros bwysau orfodi Pont …

'Chwilfrydedd chwareus' artist sydd wedi ei dylanwadu gan y ffin

Mae gwaith diweddaraf Mair Hughes o’r Drenewydd yn edrych ar ei pherthynas gyda Chlawdd Offa. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.