google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lansio ymchwiliad i lofruddiaeth dyn yn dilyn digwyddiad treisgar mewn pentref

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn gafodd ei adael mewn cyflwr difrifol yn dilyn digwyddiad “treisgar” mewn pentref yn Nhorfaen.

Fe gafodd swyddogion heddlu eu galw i ddigwyddiad ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, ddydd Iau 6 Awst.

Yn ystod y digwyddiad fe gafodd Anthony “Tony” Jones, 56 oed, o Aberhonddu anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd.

Dywedodd yr heddlu bod saith dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad – un 31 oed, 39 oed, 40 oed, 45 oed, 59 oed, 61 oed a 73 oed. Mae’r saith yn parhau yn y ddalfa.

Yn dilyn marwolaeth Jones, dywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn eu bod bellach yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Ditectif Anne-Marie Salwey eu bod yn ceisio deall symudiadau’r bobl oedd yn rhan o’r digwyddiad ac “yn gofyn i yrwyr a oedd yn teithio ar hyd Hospital Road, Mill Road a’r ardaloedd cyfagos rhwng 6pm a 9pm ddydd Iau i edrych ar eu lluniau dashcam” ac i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Mae teulu Anthony “Tony” Jones yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 5

See also  Strictly 'best rehab' and fireworks 'shoot into crowd'

Check Also

Ateb y Galw: Aled Emyr

Aled Emyr o’r band Achlysurol sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma. BBC …

Deisebau i ‘glywed barn y bobl’ – a ddylid caniatáu newid lliw Melin Llynon?

Mae Mr Holt hefyd yn pwysleisio y bydd yn gwneud ei orau i geisio sicrhau …

Dyn wedi mynd â’i wraig sâl adref o’r ysbyty dros ‘ofnau diogelwch’

Dywed Mr Dutton, o bentref Burton ger Wrecsam, i’w wraig gael gwybod ddechrau Gorffennaf fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa basisgerät aurora green. elfbar elfliq liquid. Hostrite hosting news updates.