google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi mynd â’i wraig sâl adref o’r ysbyty dros ‘ofnau diogelwch’

Dywed Mr Dutton, o bentref Burton ger Wrecsam, i’w wraig gael gwybod ddechrau Gorffennaf fod ganddi diwmor diniwed (benign) a chafodd ei chyfeirio at Ysbyty Walton, Lerpwl ar gyfer llawdriniaeth bosib.

Mae un o symptomau’r cyflwr, meddai, yn amharu ar ei gallu i wybod pa bryd mae angen bwyta ac yfed, gan arwain at sawl ymweliad i’r adran frys.

Ond mae Mr Dutton yn amharod bellach i fynd â hi i’r adran frys leol wedi iddi allu crwydro yn ddiweddar tra yng nghanol cael triniaeth, a chael ei gadael, fwy neu lai, ar ei phen ei hun yn yr uned penderfyniadau clinigol.

“Ffoniodd [Julia] fi i ddweud ‘dwi wedi cael drip, dwi’n dod adref’,” meddai Mr Dutton.

“Neidiais i’r car, gyrru i’r ysbyty a dod o hyd iddi’n sefyll y tu allan i A&E gyda’i bag yn barod i fynd adra.”

Ond pan welodd bod tiwb yn dal ynddi, roedd yn glir nad oedd wedi cael ei rhyddhau’n swyddogol i fynd adref.

“Wnes i siarad gyda’r nyrsys a dweud… ‘Gallech chi ddim gadael i glaf bregus gerdded allan.. mae hi dan eich gofal. Dydy hyn ddim yn ddigon da.”


BBC News

Advertisements

See also  'Trafodaethau cychwynnol' dros gau'r Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer gwaith atgyweirio

Check Also

BBC Wales cuts risk ‘irreversible deterioration’, warns first minister

In a reply, dated 2 November, Brittin responded that “the BBC takes its obligations to …

Bereaved families accuse Plaid ministers of betrayal over Covid review

In his Senedd announcement outlining the review, Constitution Minister Dafydd Trystan Davies there was “much …

Gyrrwr lori ‘gyda’i fab yn yr eiliadau olaf’ cyn taro gwifren drydan – cwest

Disgrifiodd contractwyr, oedd wedi gweld y digwyddiad, fflamau yn dod o deiars cefn y lori …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime