google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Deisebau i ‘glywed barn y bobl’ – a ddylid caniatáu newid lliw Melin Llynon?

Mae Mr Holt hefyd yn pwysleisio y bydd yn gwneud ei orau i geisio sicrhau dyfodol y felin.

“Dwi’n deall yn iawn pam bod ‘na reolau i’w cael… ond dwi ‘di g’neud gymaint galla’i i gynnal y felin yma… Os dwi ddim yn g’neud pethau fel hyn, yna mi fydda i’n g’neud colled.

“Dwi ddim isio bod y boi sydd am newid bob adeilad hanesyddol i fod yn lliwgar a ballu, ond mae hwn yn helpu Melin Llynon para o leia’ blwyddyn arall.

“Yn y pen draw, dim ond gwneud yr hyn sydd orau i ddyfodol y felin ydw i eisiau.

“Ar ôl gweld y manteision i dwristiaeth dros yr haf hwn â’m llygaid fy hun, bydda i’n bersonol yn llofnodi’r ddeiseb i gadw’r lliwiau.

“Ond peidiwch â gadael i fi ddylanwadu ar eich penderfyniad!”

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai unrhyw gais yn y dyfodol am ganiatâd adeilad rhestredig yn cael ei benderfynu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, polisi cynllunio a dyletswyddau’r Cyngor i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol.

Byddai sylwadau a chyflwyniadau gan y cyhoedd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses. Fodd bynnag, yn achos adeilad rhestredig mae ystyriaethau treftadaeth yn cario pwysau sylweddol ac ni fyddai cefnogaeth gyhoeddus yn unig yn gallu penderfynu canlyniad y cais.

Cafodd y Felin ei hadeiladu yn 1776 a 250 o flynyddoedd yn ddiweddarach amser a ddengys sut fydd y melin gwynt yn parhau i edrych.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Dylai Arron Banks ymddiheuro am sylw 'Welsh lad' - Farage

Check Also

From Aberfan to Manchester Arena, victims face fight for help

A spokesperson for the Ministry of Justice, which oversees the Criminal Injuries Compensation Authority, said …

Wales ‘left behind’ after Jesy Nelson SMA screening ‘victory’

Ophelia, from Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, was born in September 2022 and her dad said …

One Day Cup: Glamorgan snatch win over Worcestershire after Libby ton

Glamorgan rested Colin Ingram after a blow on the hand against Hampshire, with Nicholls and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfa prefilled pod.