google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sioeau amaethyddol angen datblygu er mwyn goroesi – Llywydd Sioe Môn

Advertisements

Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Tom Jones fod y penderfyniad i brynu safle parhaol i’r sioe ‘nôl yn y 1970au wedi bod yn weledigaeth amhrisiadwy.

Esboniodd fod y maes ar gael nid yn unig i’r Primin, ond ar gyfer digwyddiadau eraill hefyd – fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

“Mi oedd Eisteddfod yr Urdd yma yn ddiweddar ac roedd yr ymwelwyr yn gweld gwerth safle fel hyn i ddigwyddiad mawr,” meddai.

“Mae’n rhaid i chi wneud y sioe yn ddeniadol i bobl y tu allan i’r diwydiant. Ar ddiwedd y dydd sioe amaethyddol ydi hi.

“Wrth gwrs ma’ pobl tu allan i’r diwydiant yn mwynhau gweld anifeiliaid, ond oherwydd y safle mi ydan ni’n gallu rhoi digwyddiadau y tu allan i amserlen y sioe.

“Ychydig wythnosau nôl roedd ‘na ddigwyddiad mawr efo pobl yn cadw cŵn – mae’n rhaid i’r gymdeithas barhau i ddatblygu gwneud hynny, sydd y tu allan i orchwyl amaethyddiaeth, ond wedyn yn ffynhonnell incwm i’r safle er mwyn datblygu.”


BBC News

Views: 1

See also  Plaid Cymru's Rhun ap Iorwerth: Labour feeds Reform fearmongering

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 10 mg/ml nicotine. elfbar elfliq liquid.