google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Hwlffordd: Menyw’n pledio’n euog i ddynladdiad ei mab 7 oed

Mae menyw 43 oed o Hwlffordd wedi cyfaddef iddi ladd ei mab saith oed yn eu cartref ddechrau’r flwyddyn.

Fe blediodd Papaipit Linse yn euog i ddynladdiad Louis Linse ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ond yn ddieuog i gyhuddiad o’i lofruddio.

Dywedodd Caroline Rees KC wrth Lys y Goron Abertawe nad oedd yr erlyniad am ofyn am achos llawn wedi i’r diffynnydd bledio’n euog i ddynladdiad.

Cafodd Linse ei dychwelyd i’r ddalfa, ble mae hi’n derbyn triniaeth seiciatryddol.

Fe fydd yn cael ei dedfrydu ar 13 Rhagfyr, pan fydd tystiolaeth seiciatryddol yn cael ei chyflwyno.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd am 10:45 fore Mercher 10 Ionawr.

Yn fuan wedi hynny daeth cadarnhad bod bachgen saith oed wedi marw.

Dywedodd y Barnwr P H Thomas KC wrth y gwrandawiad: “Mae hwn yn amlwg yn achos sensitif iawn ac yn un drasig.”


Source link

Views: 0

See also  Undeb yn pasio cynnig o ddiffyg hyder yn is-ganghellor Prifysgol Bangor

Check Also

Fine-tuning and a clear target – Wrexham's season aim

Wrexham aim for the coming campaign clear after they narrowly missed out on a Championship …

‘Halen y ddaear’: Pobl ei phentref lleol yn cofio Bonnie Tyler

Mae Jane Price, perchennog The Lovespoon Gallery, yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth …

Cwis Sali Mali – BBC Cymru Fyw

Mae S4C wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd cyfres newydd o Sali Mali yn dychwelyd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bundle 10mg : elfbar elfa refillable pod + 2x elfliq liquid 10 mg/ml nikotin. Khartoum december 16 : since april 2023, sudan has been torn apart by a violent power struggle between two rivals.