Mae Neli’n ei disgrifio fel ‘gŵyl yn fwy na eisteddfod’, ac mae dipyn o waith i’w wneud er mwyn i’r digwyddiad – sy’n para tridiau dros benwythnos ym mis Mai – allu digwydd bob blwyddyn, meddai.
Roedd ei gwaith hi fel ysgrifennydd yn cynnwys: “Trefnu’r rhaglen i ddechrau, rhestr testunau, a wedyn ffeindio beirniad, cysylltu â phobl, llywyddion y dydd a phob math o bethau ar gyfer cysylltu â’r cystadleuwyr neu gyda rhieni’r plant.
“Mae wedi bod yn bleser, dwi wedi gwneud lot o ffrindiau ar hyd y blynyddoedd.”
Ac un o’r pleserau mwyaf dros y blynyddoedd i Neli yw gweld y plant a phobl ifanc yn tyfu fyny ac yn mynd ymlaen i fod yn berfformwyr llwyddiannus.
Meddai: “Ni wedi cael yn yr eisteddfodau cynnar pobl fel teulu’r O’Neills o Bontarddulais – Dennis, Patricia, Doreen ac Andrew, yn mynd ymlaen yn y byd cerddorol.
“Wedyn, Shân Cothi wrth gwrs, mae’n rhaid i ni beidio anghofio Shân. Roedd hi’n cystadlu lot yn yr eisteddfodau. A Rhian Lois sydd wedi mynd ymlaen i’r byd opera. Robyn Lynn hefyd, y ddau yn gwneud mor dda. Wedyn, Jessica Robinson a Bethan Dudley i enwi dim ond ychydig.”
Syr David T James oedd y noddwr ar gyfer yr eisteddfod gyntaf yn 1964 a’i syniad e oedd i gynnal yr Eisteddfod.
Meddai Neli: “Wrth gwrs roedd hi mor boblogaidd yn y babell ar y cae pêl-droed benderfynodd e fod eisiau adeilad parhaol i’r Steddfod. Ac mi ga’th yr hen bafiliwn ei adeiladu.”
Ar ôl tân yn y pafiliwn ar ddechrau’r ganrif adeiladwyd pafiliwn newydd sy’n cael ei ddefnyddio bob blwyddyn erbyn hyn.
Roedd yr eisteddfodau cyntaf yn dra wahanol i’r ŵyl erbyn heddiw, yn ôl Neli: “Mae wedi bod yn eisteddfod eithaf poblogaidd ar hyd y blynyddoedd.
“Ond wrth gwrs, erbyn hyn, mae pethau wedi newid i fel o’n nhw ar y dechrau pan oedd y corau mawr yn dod, a roedd y pentre i gyd yn llawn bysus yn parcio ym mhob man.
“Roedd corau yn dod o bob man – o Lundain, Stoke-on-Trent, côr o America yn dod yn flynyddol am sawl blwyddyn. Ni’n colli’r pethau yna nawr, wrth gwrs. Mae pethau wedi newid. Ond ni’n dal i gael corau a phartion lleol yn cystadlu o hyd.”
BBC News