google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwobrwyo Ieuan ap Sion am ei gyfraniad i Gymreictod

Advertisements

Mae Ieuan ap Siôn yn adnabyddus am ei ddoniau perfformio caneuon gwerin, ac mae hefyd wedi bod yn fuddugol mewn canu cerdd dant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Ŵyl Cerdd Dant.

Yn ogystal â’i ddoniau canu, mae hefyd yn naturiaethwr, ac yn ymddangos yn aml ar raglen Garddio a Mwy ar S4C.

Fe gafodd Ieuan ei fagu ym mhentref Rhes-y-Cae, Sir y Fflint ar aelwyd nad oedd “yn perfformio’n gyhoeddus”, meddai.

“Roedd Dad efo llais bendigedig ond ddim yn gwybod be’ i ‘neud efo fo, roedd o’n wych iawn.

“Mam wedyn efo llais alto, a rhywle yn y canol ydw i. Ro’n i’n canu tenor nes i Brian Hughes dd’eud wrtha i mai bariton o’n i erioed.

“Roedd Taid Penyffordd yn canu gwerin a ges i swp o ganeuon gwerin ganddo fo o’r ardal hon,” meddai.

Diolch i’r Eisteddfod Genedlaethol y mae Ieuan wrth feddwl yn ôl i’r cyfnod pan ddechreuodd berfformio. Cyn ymweliad y Brifwyl â’i ardal leol yn 1969, doedd erioed hyd yn oed wedi clywed am gerdd dant.

“Un o’r dylanwadau mwyaf arna i oedd pan daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Fflint.

“Mi es i a ‘na i byth anghofio sefyll ar stryd fawr yn Y Fflint a gweld yr Orsedd yn mynd i fyny a’r holl wisgoedd a’r cleddyf; roedd o’n fendigedig.

“Mi es i wedyn drwy’r wythnos ac yna glywes i canu penillion, neu canu cerdd dant am y tro cyntaf yn fy oes. Wedyn dros y blynyddoedd a thrwy wrando ‘nes i ddysgu sut i ganu a sut i werthfawrogi cerdd dant,” meddai.


BBC News

Views: 2

See also  Sir Kyffin letters fetch almost £6,000 at auction

Check Also

Lord Botham’s frustration as people question his grandson playing for Wales

England’s cricket team also represents Wales, although Lord Botham – known as “Beefy” – is …

Aur i ras wib merched Cymru ar drac seiclo Gemau’r Gymanwlad

Mae Cymru wedi ennill eu trydedd fedal aur hyd yma yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow ar …

Commonwealth Games 2026: Wales sprint team trio win Glasgow gold

Wales have won Commonwealth Games gold in the women’s team sprint at the Sir Chris …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants. Log in ‹ elfbar disposable store — wordpress.