google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

‘Gormod o waith papur’ wrth drosglwyddo cleifion i Loegr

Advertisements

Yn ddiweddar bu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn trafod gofyn i ysbytai yn Lloegr ohirio’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion o Gymru er mwyn arbed arian.

Nid oes gan y sir ysbyty cyffredinol ac mae’n dibynnu ar rai dros y ffin.

Yn aml mae cael mynediad i gofnodion cleifion yn anodd wrth i systemau TG gwahanol gael eu defnyddio.

Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno ddydd Mercher yn cynnwys profiad claf a arferai fod yn ymgynghorydd ac felly wedi arfer delio â gwahanol wasanaethau iechyd.

Er mwyn cael triniaeth dros y ffin roedd angen cais cyllido cleifion annibynnol (IPFR), a oedd yn golygu bod meddygon ymgynghorol yn Lloegr yn ysgrifennu at y bwrdd iechyd yng Nghymru.

“Oherwydd aneffeithlonrwydd yn y system mae’r unigolyn wedi teimlo nad oedd ganddo ddewis ond talu am rywfaint o’i driniaeth yn breifat,” meddai’r dystiolaeth.

“Byddai rhywun nad yw’n feddyg neu rywun sy’n gweithio y tu allan i’r GIG wedi cael trafferth ymdopi â’r system.”

Yn ogystal â gwasanaethau arbenigol, dywedodd y BMA yng Nghymru fod y ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 13,300 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, a 21,100 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon yng Nghymru.

Roedd bron i 27,000 o drigolion Cymru ar restrau aros am ofal yn Lloegr ym mis Mawrth y llynedd – mwy na dwbl y nifer yn 2011.


BBC News

See also  Kane James: From one of the world's most isolated islands to Wales debut

Check Also

Port Talbot paedophile who abused children jailed for 21 years

A predatory and dangerous paedophile who abused a young child and used chatrooms to plan …

Newport County re-sign winger Tanatswa Nyakuhwa on loan from Cardiff City

Newport County have completed the loan signing of winger Tanatswa Nyakuhwa from Cardiff City on …

Swansea City transfer news: Jeremy Monga deal set to go through despite Ronald and Inoussa deals collapsing

Swansea City expect to sign Manchester City winger Jeremy Monga on loan for the rest …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime