google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon

Dywedodd Vaughan Gething wrth weinidogion mewn grŵp tecstio yn ystod y pandemig ei fod yn dileu negeseuon, mae wedi dod i’r amlwg.

Dywedodd y prif weinidog, oedd yn weinidog iechyd ar y pryd, wrth gydweithwyr y gallai’r negeseuon gael eu dal gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth fod y gweinidogion wedi bod yn trafod materion mewnol Llafur, nid polisi Covid Llywodraeth Cymru, ac mae wedi gwadu dileu negeseuon er mwyn osgoi craffu.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru y gallai fod Mr Gething wedi camarwain ymchwiliad Covid ar ôl i’r stori, a adroddwyd gyntaf gan Nation.Cymru, ddod i’r amlwg.

Yn siarad gyda BBC Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething nad oedd wedi “dileu negeseuon ynghylch gwneud penderfyniadau, ac mewn gwirionedd heb ddileu unrhyw neges destun o fy ffon, oherwydd nad oedd gen i’r amser na’r awydd”.

Yn y Senedd, cyhuddwyd Mr Gething gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth o roi tystiolaeth gelwyddog ar lw yn yr ymchwiliad.

Galwodd Mr Gething ar Mr ap Iorwerth i dynnu’r cyhuddiad yn ôl, gan alw’r cyhuddiad yn atgas.

Awgrymodd y prif weinidog fod y neges yn ceisio osgoi sylwadau fyddai’n peri embaras rhwng gweinidogion i ddod i’r amlwg.

Yn y cyfamser dywedodd yr ymchwiliad Covid y byddai’n ystyried a ddylid cymryd mwy o dystiolaeth gan Mr Gething.

Mae’r ddwy wrthblaid wedi ysgrifennu at yr ymchwiliad yn gofyn iddo adalw Mr Gething.


Source link

Advertisements

See also  Rhyl 'serious assault' in town centre as man arrested

Check Also

World Grand Prix: Luke Humphries beats James Wade to secure final showdown with Gerwyn Price

World number two Luke Humphries secured his place in the World Grand Prix final with …

Elite League: Cardiff Devils 2-0 Manchester Storm

Cardiff Devils began the Elite League season with a 2-0 win at home to Manchester …

Ex-City trader How to spot a psychopath at work

“They can be very strong and, in some ways, make good leaders… but there are …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime