google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gemwaith o’r Oes Efydd wedi’i ddwyn o amgueddfa Sain Ffagan

Advertisements

Mae gemwaith aur o’r Oes Efydd wedi’i ddwyn o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan dros nos.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio ar ôl i ddau berson dorri i mewn i brif adeilad yr amgueddfa, sydd ar gyrion Caerdydd.

Y gred yw bod nifer o eitemau wedi eu cymryd o arddangosfa yn yr hyn mae Amgueddfa Cymru wedi ei alw’n “ymosodiad wedi’i dargedu”.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad am 00:30 fore Llun, 6 Hydref.

“Rydyn ni’n credu bod dau berson wedi torri i mewn i’r prif adeilad, ble mae nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith o’r Oes Efydd, wedi eu dwyn o gas arddangos”, meddai’r Ditectif Arolygydd Bob Chambers.

“Mae ymchwiliad yn parhau, ac rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni cyn gynted ag sy’n bosib.”

Ychwanegodd Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am y safle, eu bod wedi eu “tristau” gan y digwyddiad.

Diolchodd y sefydliad i’r heddlu ac i staff am eu hymateb i’r digwyddiad.


BBC News

Views: 0

See also  Woman injured in 'fast-spreading' garden fire in Oxford

Check Also

Esyllt Sears: ‘Falch i roi llais i famau sengl’

Wrth drafod ei sefyllfa a’r heriau sy’n codi fel mam sengl ar y podlediad – …

Mum at Gwynedd school with two pupils slams council over closure plans

The council said falling pupil numbers across the local authority had made the decision unavoidable. …

Alex Callender: Fit-again Wales forward relishing Barbarians bonus

That gave Callender the chance to take a good look at plenty of promising talent, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... rv transport south carolina.