Meddai Gareth am y cyfnodau mae e wedi dioddef gyda’i iechyd meddwl: “Mae o’n straen sy’ tu ôl i feddwl rhywun. Mae o’n rhywbeth sy’ ddim yn stopio mynd rownd yn dy ben di. Ti ddim yn cysgu yr un fath yn y nos.
“Dwi’n berson cryf yn feddyliol ond weithiau ti’n codi yn y bore a meddwl ‘da ni isho gwneud TB test‘ a ti wedi cysgu rhyw 2-3 awr yn troi a throsi. Ti’n codi, ti’n meddwl amdano a ti ddim yn mynd yn ôl i gysgu a dwi’n meddwl se’n braf os fydden ni’n cael bach o barch gan ein llywodraeth.
“Mae’r archfarchnadoedd yr un fath am fod nhw isho gwerthu pethau yn rhad. ‘Dan ni isho pris teg am beth ni’n cynhyrchu.”
Mi wnaeth Gareth ymdopi gyda’r straen drwy barhau i siarad, meddai: “Siarad efo’r wraig, siarad efo ffrindiau.
“Oedd o’n flwyddyn o straen ond oedd o ddim bob dydd ac dwi’n feddyliol yn gryf, mae gen i wraig dda a ffrindiau ffantastig.
“Mae hwnna’n bwysig bod ti’n medru rhannu dy faich efo pobl sy’n deall dy broblemau di – ac weithiau gollwng bob dim allan efo rhywun sy’n estron ella.”
Yn ystod wythnos iechyd meddwl mae Gareth wedi cyflwyno rhaglen newydd ar gyfer S4C, Yr Argyfwng Iechyd Meddwl Mewn Ffermio, lle mae’n cael trafodaeth emosiynol gyda ffermwyr am iechyd meddwl.
Meddai: “Oedd o’n anodd gwrando arnyn nhw – mae pobl yn cymryd eu bywydau eu hunain. Mae’n rhywbeth sy’n digwydd yn wythnosol.
“Fel ‘dach chi’n clywed ar y rhaglen mae un ffarmwr odro â gymaint o ofn i bobl nabod ei wyneb o neu glywed ei lais o ‘da ni’n ei guddio fo.
“Yn 2025 pan ddylai fod rhywun yn cuddiad am fod ganddo fo ofn y cwmnïau mawr yma i dynnu i ffwrdd ei gontract llefrith o?
“Pobl ‘dan ni yn y diwedd. Mae’r gwaith papur yn aruthrol ar y diwydiant – mae hwnna isho cael ei sbïo arno fo. ‘Da ni’n neud y gwaith efo anifeiliaid yn y dydd ac yn llenwi papur yn y nos.
“Mae ‘na gymaint o bwysau wedyn ar y ffarmwr falle mae’n codi un bore a mae o’n ista reit ar waelod yr ysgol. Mae’n drist ac mae’n anodd cael rhywun i godi fyny’r ysgol eto.
“Mae’r pobl dwi’n adnabod yn y diwydiant yn gweithio’n galed ac yn talu’r ffordd. ‘Da ni’n cael 1% return ar ein investment ni. Does ‘na ddim un diwydiant yn y byd yn neud be’ mae ffermwyr yn neud. ‘Da ni ddim yn chwilio am bres am ddim, ‘da ni isho pris teg am beth ‘da ni’n cynhyrchu.”
BBC News