google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Seren wib’: Cofio Owain Rhys Davies

Advertisements

Aeth o Ysgol Gynradd Y Dderwen i Ysgol Gyfun Bro Myrddin, buodd yn rhan o Opera Ieuenctid Caerfyrddin, yna ymlaen i Goleg Gorseinon i wneud BTEC perfformio cyn treulio tair mlynedd yn LIPA (Liverpool Institute of the Performing Arts), ac yn syth fe gafodd ei gastio yn sioe Mamma Mia! ar y West End.

Roedd yr yrfa a ddilynodd yn un anferth a lliwgar, ac fe weithiodd ar rai o brif lwyfannau, ffilmiau a rhaglenni teledu’r byd yn ei gyfnod byr a disglair ar y ddaear.

‘Nath e gerfio gyrfa mor sbarcli i’w hun yn gynnar iawn wrth iddo rywsut lanio rhan fel mecanic oedd hefyd yn medru neud back flips ar rhaglen Cowbois ac Injans ar S4C, sydd jyst mor niche, a mor Owain.

O’dd e hefyd wrth ei fodd yn canu yn nosweithiau Cymreig Castell Caerdydd i dwristiaid gyda sawl ffrind oes ac agos.

Pan fues i yn byw yn Llundain yn 2013, ro’n i mor lwcus o bresenoldeb Owain.

Ma’ byw mewn dinas hollol newydd yn eich 30au yn eitha’ anodd ar brydie, ac roedd e wedi rhagweld hynny gan checkio i fewn yn aml a gethon ni gyment o sbort.

O’n i wedi cal blas ar Espresso Martinis ar y pryd, a dyma fe yn dal fy llaw ac yn arwain fi at far coctêls ble gafon nhw eu hysgwyd yn gyntaf!

Members only,” dwedodd y bownsar.

Then we must BECOME members!” medde Owain!


BBC News

Views: 0

See also  Plaid yn cefnogi safleoedd niwclear Trawsfynydd a Wylfa yn unig

Check Also

‘Cynllun uchelgeisiol’ i ‘drawsnewid economi Cymru’ – Adam Price

Wrth gyflwyno ei Ddatganiad Llafar cyntaf i’r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Adam Price fod Llywodraeth …

Y Cymro fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd 2026

Cafodd Finn Surman ei eni yng Nghaerdydd ar 23 Medi, 2003, ond fe symudodd y …

Malcolm Uphill: Y gŵr o Gaerffili a dorrodd record byd TT Ynys Manaw

Darn addas i ddysgwyr: Hanes y person cyntaf i orffen ras TT Ynys Manaw ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.