google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Galw am dynhau rheolau ‘anghynaladwy’ ar ryddhau adar hela

Advertisements

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae lledaeniad ffliw adar wedi atgyfnerthu galwadau am reoleiddio llymach.

Mae dogfennau ddaeth i law drwy gais rhyddid gwybodaeth, a’u rhannu a BBC Cymru, yn datgelu digwyddiad ger Llangollen ym mis Medi 2025 lle daethpwyd o hyd i 875 o ffesantod yn farw.

Cafodd sampl o 22 eu profi a chanfod eu bod wedi’u heintio â ffliw adar.

Fe ddigwyddodd yn agos i safleoedd bridio pwysig ar gyfer adar sydd dan fygythiad fel y gylfinir a’r grugiar ddu.

Wythnosau yn ddiweddarach, cafodd achosion o’r clefyd ei gadarnhau unwaith eto mewn busnes adar hela ger Wrecsam, oedd yn magu dros 20,000 o ffesantod a phetris.

Roedd Mr Gruffydd yn cydnabod bod arferion rheoli tir sy’n gysylltiedig â’r diwydiant saethu yn gallu bod o fudd i’r amgylchedd mewn rhai achosion.

“Dydan ni ddim yn erbyn hela wrth reswm, ond ‘da ni just isho gweld o’n digwydd mewn ffordd sydd ddim yn achosi risg i fywyd gwyllt sydd mewn perygl o ddiflannu o Gymru,” meddai.

“Mae unrhyw ohiriad pellach o ran cyflwyno system reoleiddio yn cynyddu’r risg hynny.”

Ychwanegodd fod perygl y bydd gweinidogion yn methu â chadw at eu bwriad o gyflwyno’r system drwyddedu newydd erbyn dechrau’r tymor saethu eleni, a’u hymrwymiad i roi digon o amser i fusnesau saethu baratoi.


BBC News

See also  Gemau'r Ynysoedd: Athletwyr Môn fydd yn chwifio'r ddraig goch

Check Also

Menywod sy’n prynu testosteron ar-lein yn wynebu sgil effeithiau hirdymor

Dr Olver sy’n gyfrifol am arwain clinig menopos Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac mae hi’n …

Port Talbot paedophile who abused children jailed for 21 years

A predatory and dangerous paedophile who abused a young child and used chatrooms to plan …

Newport County re-sign winger Tanatswa Nyakuhwa on loan from Cardiff City

Newport County have completed the loan signing of winger Tanatswa Nyakuhwa from Cardiff City on …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime