google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Effaith adeiladu llwybr beicio yn Sir Gâr yn ‘annerbyniol’

Advertisements

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, aelod cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros drafnidiaeth, gwastraff a seilwaith, bod yr awdurdod yn “ymwybodol o’r pryderon a godwyd gan Richard Lewis”.

“Rydym yn pwysleisio unwaith eto fod y prosiect wedi’i gyflawni gan gadw at y cynlluniau a’r manylebau y cytunwyd arnynt.”

Ychwanegodd eu bod wedi trafod yn rheolaidd ag asiantau a benodwyd gan Mr Lewis ac wedi cyfarfod gydag ef ar y safle i drafod ei bryderon.

“Mae’n bwysig pwysleisio bod y tir, sydd wedi’i gaffael a’i roi’n gyfreithlon, a’r trywydd y cytunwyd arno ar gyfer y llwybr yn gyson â maint y safle presennol ac ôl troed y llwybr.

“Mynegwyd hyn ar y cychwyn i’r tirfeddianwyr yn ystod y broses gynllunio a chaffael tir.

“Cafodd y tir ar gyfer y llwybr beicio ei gaffael trwy broses gorchymyn prynu gorfodol, a oedd yn cynnwys ystyriaeth ac ymgynghori gofalus.

“Rydym yn deall pwysigrwydd lleihau’r effaith ar dirfeddianwyr lleol ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n codi.”


BBC News

See also  Iconic Rhossili cliff horses to be removed over safety concerns

Check Also

Yr ysgolhaig a’r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed

Am flynyddoedd bu’n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda …

Wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol teulu o Ddyffryn Nantlle

Mae Guto yn naw oed ac ym mlwyddyn pump yn Ysgol Bro Lleu. Efallai y …

Merthyr Tydfil football win over Atalanta made into theatre play

Director Neil Maidman attended the famous fixture at Penydarren Park. “It was absolutely amazing. I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime