google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 17 2026

Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Paige Morgan

Dywedodd Paige mai un peth sydd wedi ei helpu i ddysgu’r iaith yw “rhoi Radio Cymru ymlaen yn y cefndir”.

Esboniodd ei bod wedi torri ei phigwrn tra’n cerdded rhan o lwybr arfordir Cymru dwy flynedd yn ôl, a bod y cyfnod o wella yn dilyn yr anaf hwnnw wedi rhoi cyfle gwirioneddol iddi ganolbwyntio ar y Gymraeg.

“Am ryw reswm, penderfynais ddefnyddio’r Gymraeg drwy’r holl antur.

“Roedd gen i dri ffrind oedd yn gofalu amdanaf i a pob un yn siarad Cymraeg, ond mwy na hynny roedd yr iaith fel angor i mi mewn cyfnod ansicr iawn.”

Ychwanegodd ei bod bellach yn rhan o werslyfr dysgu Cymraeg swyddogol yn sgil ei hanffawd – a hynny wedi iddi fynd ati i chwilio am eiriau Cymraeg i ddisgrifio ei hanaf i’w thiwtor.

“Rydw i bellach yn y gwerslyfr uwch dau neu uwch tri newydd fel rhan o wers am enwau rhannau’r corff.

“Felly rydw i wedi cyfrannu rhywbeth pwysig i’r diwylliant a’r cwricwlwm dysgu Cymraeg!”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Calum Chambers: Cardiff City set to sign Aston Villa defender

Check Also

'Anodd cynnal' hosbisau Cymru yn sgil sefyllfa ariannol 'fregus'

Hosbisau ledled Cymru’n wynebu costau a galw cynyddol wrth alw ar y llywodraeth am fwy …

Ospreylia: How the Ospreys turned to Australia in summer recruitment drive

Ospreys will be ‘stoked’ if the new quartet make an impact like Smith did in …

Severn tidal lagoon revealed and new bid to improve education standards

A review of the front page stories from the daily newspapers in Wales. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime