google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llio Angharad: Pam fod tafarndai yn bwysig

Advertisements

Mae hefyd yn bwysig os ti jest isio mynd i rywle i gael llonydd neu os ti isio cwrdd â rhywun newydd, yn enwedig os ti’n symud mewn i gymuned.

Mae’n gallu bod yn eitha’ unig os ti ddim yn ‘nabod neb. A dw i’n teimlo fatha mae hwn yn rwbath dw i’n deimlo fel rhywun sy’n 39 oed, hefo dim plant. Mae’n anodd iawn i neud ffrindiau a dod i ‘nabod pobl.

Mae’r byd wedi newid hefyd, so dw i’n teimlo fel ti’n methu mynd at rywun a deud, ‘ga i number chdi, awn ni am goffi’. Dyw o ddim yn rwbath sy’n dod yn naturiol.

O’n i’n edrych ar stats ONS [Office for National Statistics] yn ddiweddar ar unigrwydd a’r nifer uchaf o bobl sy’n teimlo yn unig o fewn y Deyrnas Unedig ydy’r oedran rhwng 30 a 49, gyda 28 y cant.

Dw i yn y grŵp yna, gan mod i’n 39 oed. A mae ‘mywyd i mor brysur a dw i’n neud stwff o hyd ond wedyn mae’r ochr cymdeithasol yn eitha’ unig.

So dw i’n gweld y dafarn fel rhywle lle dw i’n gallu mynd i jest gwrando ar bobl a chael sgwrs. Os oes rhywun efo ci, dw i’n mynd atyn nhw i gael chat.

Ac mae o jest yn codi ysbryd rhywun.


BBC News

See also  Cyflwyno parth dan waharddiad ar ran o arfordir Môn er mwyn 'atal difrod'.

Check Also

Make a Difference awards recognise those making ‘incredible difference’

After attending a dog training class with her canine companion Mili, Jane Jones learned about …

Mumbles dolphin rescue sees medics refloat stranded mammal

Two dolphins spotted thrashing in shallow water sparked an emergency rescue. The female common dolphins …

Cardiff Devils 4-2 Manchester Storm: Devils bounce back in Challenge Cup

Cardiff Devils got themselves back to winning ways in the Challenge Cup after beating Manchester …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime