google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Mae’n anodd weithiau bod yn gerddor sesiwn ond dwi wrth fy modd’

Fe ffeiriodd ei drombôn bas am gitâr bas a mynd yn ei flaen i astudio’r offeryn yn Guildford, cyn gwneud MA mewn perfformio yng Nghaer a symud i Gaerdydd yn 2018.

Mae’n dweud ei fod yn ffodus o gael swydd weinyddol rhan amser gyda Function Hub, asiantiaeth sy’n trefnu cerddorion ar gyfer priodasau a digwyddiadau yng ngogledd Cymru a Chaer.

Mae’r gwaith trefnu – a thaliad am chwarae mewn priodasau drwy’r cwmni – yn rhoi sicrwydd cyflog iddo.

Ond mae anodd cael cydbwysedd rhwng chwarae mewn priodasau a tribute bands sy’n talu “cyflog teg”, a gwaith cerddorol arall sy’n talu llai ond yn gallu arwain at brofiadau cerddorol diddorol.

Mae’n chwarae gydag artistiaid fel Mari Mathias, Mali Haf a Sage Todz ac mae ganddo brosiect cerddorol ei hun – Palug, grŵp gwerin arbrofol.

“Efo Mari Matthias ‘da ni wedi chwarae yn Lorient Interceltic Festival ddwywaith a’r tro cyntaf aethon ni yna, nath hwnna hitio fi fel ‘I’ve made it’ moment a neshi feddwl OK, mae hwn yn cool, let’s go again,” meddai.

“Ond mae yna risg dwi wedi’i gymryd i fedru gwneud hynny lle dwi wedi chwarae gigs yn rhywle fel Aberteifi a mynd yr holl ffordd yna i chwarae am £50, aros yn nhŷ Mari Mathias ac wedyn dreifio nôl diwrnod wedyn a ti’n meddwl, ok, fydden ni ddim yn gallu neud hyn loads o weithiau.”


BBC News

Advertisements

See also  Don't Look Back In Anger: Oasis' Cardiff comeback gig emotional, directors say

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime