google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o gwch ar wyliau – cwest

Mae dynes o Wynedd wedi marw ar ôl iddi syrthio oddi ar gwch i mewn i gamlas tra ar wyliau, clywodd cwest.

Roedd Margaret Billings, 78, wedi mynd yn sownd rhwng cwch a’r lan yng nghamlas Avon yn Wiltshire.

Fe glywodd Llys y Goron Wiltshire a Swindon fod Mrs Billings, o Benrhyndeudraeth, wedi marw ar safle’r digwyddiad ar 27 Mehefin.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd ei gŵr, Michael eu bod wedi bod yn briod am 51 o flynyddoedd ac wedi bod ar wyliau ar gychod sawl tro.

Dywed Mr Billings eu bod ar wyliau am wythnos gyda chriw o ffrindiau a’u bod yn angori’r cwch yn Devizes pan ddigwyddodd y ddamwain.

Fe wnaeth parafeddygon ddod i’r safle yn sydyn, ond nid oedd modd achub bywyd Mrs Billings.


BBC News

Advertisements

See also  Y sinema sy'n swyno cymuned Tywyn yw'r orau yn y DU

Check Also

‘Pontio’ parc cenedlaethol yng Nghymru a’r Ariannin ‘am y tro cyntaf’

Cafodd yr anthemau cenedlaethol eu canu, nifer o siaradwyr o wahanol sefydliadau, arwyddo Memorandwm, cyfnewid …

Mari Grug a’r gyfres Amour a Mynydd ymhlith enillwyr BAFTA Cymru 2026

Mae’r actor Matthew Rhys a’r gyflwynwraig Mari Grug ymhlith enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2026. Roedd …

Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0-1 Denmarc

Roedd angen ymateb chwim gan Ethan Ampadu reit ar ddechrau’r ail hanner i atal rhediad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime