google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y dramodydd o Forfa Nefyn sydd wedi ail-ddychmygu nofel Islwyn Ffowc Elis

Ag Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser wrth i storm wleidyddol godi yng ngogledd Cymru yn yr ailddychmygiad theatrig hefyd, gan wynebu un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith, a’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned, dywed Mared bod ysgrifennu rhai darnau wedi bod yn “anodd iawn” iddi.

Meddai: “Y prif beth ‘dan i’n ymdrin efo fo ydi’r ffin yna efo pa mor bell ti’n mynd i warchod be’ ti’n garu.

“Rydan ni wedi gweld twf yr adain dde eithafol dros y blynyddoedd dwytha, ac adegau lle mae baner y ddraig goch yn chwifio yn un o’r protestiadau yna.

“Dwi wedi meddwl sut fath o fyd fasa fo tasa ni newid y fflagia’ Jac yr Undeb i gyd i fod yn rhai’r Ddraig Goch a bod pobl yn ymddwyn fel’na – be’ ydi’r gwrthdaro rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig a chenedlaetholdeb Cymreig.

“Mae’n anodd ac oedd yna adega’ lle do’n i ddim isio ‘sgwennu y darna’ yna achos ei fod o’n rhy boenus i wynebu.”


BBC News

Advertisements

See also  John Stringer: Gwent Police officer guilty of child sexual abuse

Check Also

Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig – Gweinidog Cyllid

Mae’r Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu ei rownd …

Dyn 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

Mae dyn 43 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn, yn …

Lluniau: Llanuwchllyn v Y Bala

Roedd ‘na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu’r Bala i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime