google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn addo gofalu’n well am gar James Bond £1m wedi gwaith trwsio

Advertisements

Mae dyn o’r gogledd oedd yn berchen car Aston Martin oedd yn cwympo’n ddarnau wedi addo gofalu am y cerbyd yn well, ar ôl i waith atgyweirio olygu ei fod bellach werth £1m.

Y tro diwethaf i John Williams, 71, yrru’r Aston Martin DB5 – yr un math ag oedd gan James Bond – oedd yn ystod y 1970au.

Ond nawr – mwy na 45 o flynyddoedd yn ddiweddarach – mae’n ôl ar y ffyrdd yn dilyn gwaith helaeth.

Roedd Mr Williams o’r Wyddgrug, Sir y Fflint, wedi bod yn hoff iawn o’r car ers yn ifanc ac erbyn iddo gyrraedd 19 oed roedd wedi arbed digon o arian i brynu un ei hun am lai na £1,000.

Ar ôl i Mr Williams gael swydd dramor cafodd y car ei adael ar y dreif – ac roedd mewn cymaint o stad bod plant yn chwarae ac yn dringo drosto i gyd.

Mae wedi cymryd tair blynedd o waith ond mae’r car bellach mewn cyflwr gwell na’r gwreiddiol, meddai Mr Williams, ac mae ei weld wedi’i adnewyddu fel “gwireddu breuddwyd”.


BBC News

Views: 2

See also  Rhybudd am 'ffeiliau a ffeiliau' o gwynion am Neil Foden yn 2009

Check Also

Meddygfa’r Sarn yn Sir Gaerfyrddin i aros ar agor am y tro

Y bwriad oedd y byddai cleifion yn cael eu gwasgaru i Feddygfa Nant y Glo …

Dyn yn euog o drefnu saethu menyw yn ne Cymru o’i gell yn y carchar

Mae dyn a oedd eisoes yn y carchar am lofruddiaeth wedi’i gael yn euog o …

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.