google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dwi mewn lle da’: Rhedeg hanner marathon am resymau arbennig

Llinell derfyn hanner marathon CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanner marathon Caerdydd yn parhau’n un o’r rasus mwyaf poblogaidd ym Mhrydain

Unwaith eto eleni bydd miloedd ar filoedd o redwyr yn cymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd.

Bydd rhai yn rhedeg am y tro cynaf, eraill yn gobeithio am amser gwell na’r llynedd.

Mae rhai hefyd yn rhedeg am resymau arbennig iawn.

Rhiannon Bending, 36, Pen-y-bont

Roedd Rhiannon Bending fod i redeg y llynedd, ond tra’n paratoi ar gyfer y ras fe aeth yn sâl.

“Dechreuais deimlo’n sâl ym mis Mehefin, ac ym mis Gorffennaf fe wnes i collapsio gartef,” meddai.

“O’n i ddim yn medru cerdded, na gwneud unrhywbeth rili.

“Ym mis Medi es i i weld niwrolegydd a mi ges i ddiagnosis o multiple sclerosis.”

Disgrifiad,

Bydd Rhiannon Bending yn rhedeg hanner marathon Caerdydd flwyddyn wedi iddi gael diagnosis o sglerosis ymledol

Er ei bod hi’n cyfaddef fod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd a heriol ar adegau, mae paratoi ar gyfer yr hanner marathon wedi bod o gymorth iddi.

Fe roddodd ei henw i lawr ym mis Hydref y llynedd, cyn penderfynu ym mis Ionawr y byddai hi’n sicr yn cymryd rhan.

“Dwi wedi gweithio’n galed i allu cerdded a rhedeg eto – ac o’n i ishe rhywbeth i ganolbwyntio arno.

“Pan oedd fy nghoesau mewn poen tra’n ymarfer, doeddwn i ddim yn gwybod os mai MS oedd yn gyfrifol am hynny. Mi oeddwn i’n poeni lot.

“Dwi wedi cael lot o help gan wahanol bobl, a dwi’n teimlo mewn lle da ar y funud.

“Dwi’n codi arian i’r MS Society, ac mae pawb wedi bod yn hael iawn.”

Livi Melville-Jones, 28, Abertawe

Bydd Livi Melville-Jones yn codi arian i elusen Latch – elusen canser plant – ar ôl iddyn nhw fod yn help mawr iddi hi a’i theulu.

Yn 2015 cafodd chwaer Livi, Charlotte, wybod fod ganddi gyflwr difrifol o’r enw Aplastic anaemia – lle mae mêr esgyrn (bone marrow) yn stopio gwneud celloedd gwaed newydd.

Charlotte a LiviFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Charlotte a Livi i fod i redeg yr hanner marathon gyda’i gilydd ddydd Sul

“Mi oedd hi angen rhywun i roi mêr esgyrn iddi. Mi es i, mam a dad am brofion – ac mi oeddwn i yn rhoddwr perffaith,” meddai Liv.

“Yn dilyn y trawsblaniad mi oedd hi’n gorfod cael ei hynysu am dri mis – doedd hi ddim yn cael dod i gyswllt gyda neb.

“Mae ‘na chwe blynedd wedi bod bellach, ac mae hi’n heini ac yn iach er ei bod hi dal yn gorfod cael apwyntiadau yng Nghaerdydd a Llundain.”

Roedd Livi a Charlotte fod i redeg yr hanner marathon gyda’i gilydd ddydd Sul, ond mae Charlotte wedi gorfod tynnu nôl.

Livi Melville-Jones yng nghynhadledd newyddion Hanner Marathon Caerdydd 202Ffynhonnell y llun, Run 4 Wales
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Livi Melville-Jones yn codi arian i elusen canser plant, Latch

“Yn anffodus mae hi wedi dioddef anaf i’w phigwrn wythnos yma. Gobeithio y bydd hi’n gallu bod yno i gefnogi,” ychwanegodd Livi.

“Mae codi arian i Latch yn teimlo’n wych. Mi oedd y gefnogaeth gafon ni ganddyn nhw yn anhygoel.

“‘Da ni ishe rhoi rhywbeth yn ôl i elusen wych fuodd yn help mawr i ni yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Dwi wedi rhedeg un hanner marathon o’r blaen – fe redais yr un yn Abertawe y llynedd, ond fe ges i tonsilitis ychydig ddyddiau cyn y ras.

“Dwi’n edrych ymlaen i redeg un lle dwi ddim yn ei gweld hi’n anodd i yfed dŵr!”

Dani Rowe MBE, 34, Caerdydd

Fe gafodd Dani Rowe dipyn o yrfa ar ei beic.

Enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 yn y ras gwrso i dimau.

Roedd ‘na fedalau aur hefyd ym Mhencampwriaethau’r Byd, yn ogystal â medal efydd tra’n cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018.

Dani Rowe yn dathlu ennill medal aur yn y ras gwrso yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dani Rowe yn dathlu ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd 2012

“Pan o’n i’n beicio doedd gen i ddim hawl gwneud unrhyw redeg o gwbl,” meddai.

“Felly pan nes i ymddeol, yn syth bin nes i ddechrau rhedeg.

“Ond doedd fy nghorff i ddim wedi arfer gyda’r math yma o ymarfer corff.

“Mi o’n i’n cal stress-fractures – mi oedd o fel nad oedd fy esgyrn yn ddigon cryf er mwyn gallu rhedeg yn bell.

See also  Bundesliga highlights: Luis Diaz scores in 15 seconds & Harry Kane breaks record as Bayern beat Frankfurt

“Mi es i nôl i gerdded mwy, cyn cychwyn rhedeg eto, a dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi gwneud hanner marathon Manceinion a marathon Llundain.”

Dani RoweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dani Rowe fod “rhedeg yn rhan mor bwysig o fy mywyd”

Yn wreiddiol o Hampshire, fe gychwynodd ei gyrfa seiclo yn cynrhychioli Lloegr.

Ond ar ôl priodi’r seiclwr a’r Cymro Matt Rowe yn 2017, fe aeth yn ei blaen i gynrhychioli Cymru.

Advertisements

Bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda Matt a dau o blant, mae hi’n anelu am amser cyflym iawn ddydd Sul.

“Dwi’n targedu gorffen y ras o fewn 90 munud – ond dwi’n gwybod na fydd hynny’n hawdd.

“Mae gwneud ymarfer corff yn rhywbeth pwysig iawn i fi – yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Dwi’n berson gwell ac yn fam well ar ôl gwneud ymarfer corff, felly dyna pam fod rhedeg yn rhan mor bwysig o fy mywyd y dyddiau yma.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan comes out swinging after bad week for Labour

Check Also

Mark Hughes’ son died of sudden adult death syndrome

The son of former Manchester United footballer Mark Hughes died from sudden adult death syndrome, …

Swansea City: Right foundations now in place, says Tom Gorringe

Swansea ended 2024-25 in 11th place after an upturn in form under Alan Sheehan, only …

Tudur Dylan wedi’i ethol i fod yr Archdderwydd nesaf

Mae’r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa basic units (battery carrier).