google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Tudur Dylan wedi’i ethol i fod yr Archdderwydd nesaf

Advertisements

Mae’r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu Mererid Hopwood yn y rôl.

Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, roedd dau yn y ras y tro hwn – Tudur Dylan a Gerwyn Wiliams.

Ers rhai wythnosau mae aelodau’r Orsedd wedi cael cais i bleidleisio dros un o’r ddau, ac fe gafodd canlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd ddydd Iau.

Bydd Tudur Dylan yn dilyn ôl troed ei dad – y Parchedig John Gwilym Jones a fu’n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 – a’i ewythr y Parchedig T James Jones a fu’n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.

Mae wedi ennill y Gadair ddwywaith – yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad yn Archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.

Yn 2007 enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint.


BBC News

See also  Merthyr singer Nancy Williams says playing Glastonbury is surreal

Check Also

AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ers …

Reform MS Sarah Cooper-Lesadd plans to defect to Plaid Cymru

Plaid Cymru’s ruling body is meeting Tuesday afternoon to discuss the defection of a Reform …

Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei ‘gyfeirio at yr heddlu’

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru. Mewn datganiad, dywedodd: “Dros y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime