google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Dod â dawns i gartrefi gofal yng Nghymru

Dywedodd Siri, sy’n wreiddiol o Norwy ond rŵan yn byw yng Ngwynedd, bod un ddynes 104 oed wedi codi ar ei thraed a dechrau dawnsio pan glywodd hi gerddoriaeth roedd hi’n ei adnabod.

Meddai: “Roedd hi jyst ar ei thraed yn dechrau dawnsio, yn mor hapus, ac isio dysgu fi.

“Nes i ofyn iddi hi, ‘be’ ydi’r style favourite chi?’ ‘Oh, it’s got to be the foxtrot’, medda hi.’ ‘Ti isho dysgu fi a phawb y foxtrot yn fan yma?’ Ac mae hi off – mae’n jest fantastic i’w weld.

“Wnaeth hi ddeud wrtha i fi ‘dwi erioed wedi gneud rhywbeth fel yna o’r blaen yn fy mywyd, ond dwi’n rili, rili hoff iawn o ddawnsio’.

So yn 104 oed roedd hi’n cael profiad newydd, a dwi’n ffeindio hynna’n positif iawn. Mae’n bosib agor drws newydd i rywun sydd yn rili hen.”

Mae Siri, sy’n byw ym Mhendryndeudraeth, hefyd wedi bod yn perfformio ei gwaith 4 Tymor sydd wedi’i anelu at bobl hŷn a phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Meddai: “Yn fy nyddiau o gychwyn a rhedeg Dawns i Bawb, roedd yn rhan o gylch gwaith y cwmni, gyda’r athroniaeth o roi mynediad i bawb i brofi dawns.

“Mae’r syniad y dylem wneud dawns yn bosibl i bawb yn un o egwyddorion sylfaenol dawns gymunedol, a ddatblygodd yn gryf iawn yng Nghymru o’r 1980au hyd heddiw.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Powys: What does the train crash site look like?

Check Also

Michael Sheen says Wales should be asked if it wants Prince of Wales title back

Ayola last acted opposite Sheen 40 years ago when they were both teenagers, as part …

Cardiff City: Brian Barry-Murphy says he was backed in transfer window

There had been suggestions Cardiff wanted to strengthen up front, out wide and in defence. …

Wrexham news: Parkinson pleased to see transfer window close

Neither side managed a shot on target in the opening half at The Den, although …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime