google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

‘Dim refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru’

8b7ddeb0 2b77 11f0 8f57 b7237f6a66e6.jpg

Advertisements

Mewn cyfweliad yn fuan ar ôl iddo ddod yn arweinydd yn haf 2023, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd yn rhaid i bleidleiswyr fod wedi “ymrwymo’n llwyr i annibyniaeth” i gefnogi’r blaid.

Gwnaeth Adam Price annibyniaeth yn rhan allweddol o’i ymgyrch etholiadol i’r Senedd yn 2021, gan addo cynnal refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd.

Dyna oedd y tro cyntaf mewn etholiad i’r Senedd i’r blaid wneud addewid clir ar y mater.

Ddydd Mawrth fe wnaeth arolwg barn newydd awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r arolwg a gyhoeddwyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18% – yr isaf i Lafur mewn unrhyw arolwg barn ar gofnod yng Nghymru.

Roedd y Ceidwadwyr ar 13%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, a’r Gwyrddion ar 5%.

Mae’n annhebygol y byddai unrhyw blaid yn gallu ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain, a Phlaid Cymru yw’r unig blaid o blaid annibyniaeth yn y Senedd ar hyn o bryd.


BBC News

See also  Agor cwest i farwolaeth dyn ifanc o Bwllheli fu farw mewn gwrthdrawiad

Check Also

Cardiff City: Brian Barry-Murphy says he was backed in transfer window

There had been suggestions Cardiff wanted to strengthen up front, out wide and in defence. …

Wrexham news: Parkinson pleased to see transfer window close

Neither side managed a shot on target in the opening half at The Den, although …

Seventh person charged in Cardiff teenagers Thailand drug courier case

A seventh person is facing charges after two teenagers from Cardiff were allegedly trafficked to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime