google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diffyg cyflawni yn ‘rhwystredig’ i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Fec75ab0 2440 11f0 8c66 ebf25fc2cfef.jpg

Advertisements

Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu ar gyfer hawliau dinasyddion nad oedden nhw wedi’u geni eto, pan basiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015.

Degawd yn ddiweddarach, mae’r adroddiad cyrhaeddiad diweddaraf yn dweud bod yna “gefnogaeth frwd” ar draws y sector cyhoeddus.

O weinidogion Llywodraeth Cymru i arweinwyr ysgolion ac ysbytai, maen nhw oll bellach i fod yn gwerthuso goblygiadau hir-dymor eu penderfyniadau a gweithio mewn partneriaeth i daclo heriau’r dyfodol fel newid hinsawdd ac anghydraddoldebau iechyd.

Ond daeth yr adroddiad i’r casgliad nad oedd nifer o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – a gafodd eu sefydlu er mwyn dod â gwahanol gyrff ynghyd – yn gweithio’n dda, a’u bod yn brin o adnoddau a chymorth.

Mae ‘na angen i newid agweddau arweinwyr ar draws cyrff cyhoeddus hefyd er mwyn gweithredu’r ddeddf yn llwyddiannus, meddai.

Mae’r adroddiad yn galw ar y llywodraeth nesaf i lansio adolygiad o’r ddeddf, gan gynnwys “deialog gyhoeddus ynglŷn â’r Gymru ry’m ni am ei weld ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

Cyhoeddwyd adroddiad arall ddydd Mawrth hefyd gan Swyddfa Archwilio Cymru – sy’n dod i’r casgliad nad yw’r ddeddf yn “ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd”.

“Rydym yn gweld enghreifftiau da, ond rydym hefyd yn gweld achosion lle nad yw cyrff cyhoeddus wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth benodol, os o gwbl, i’r ddeddf,” meddai’r archwilydd.


BBC News

Views: 0

See also  Newid ffyrdd yn ôl i 30mya i gostio rhwng £3m a £5m

Check Also

Tyson Fury v Anthony Joshua: Principality Stadium keen to stage all-British bout

Cardiff’s Principality Stadium has hosted late night boxing before, including Joe Calzaghe’s fight with Mikkel …

‘Colled enbyd’ – Teyrnged teulu wedi marwolaeth gyrrwr ar yr A40

Mae teulu dyn 38 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng ei fan a bws …

‘Labour’s call’ to pass Welsh budget, says first minister

In response Huw Thomas said the offer was not enough. “As it stands we will …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Specification of swift carrera 122 2024 campervan. Joyo guitar pedal power supply pedal board power s….