google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Andrew Cusworth yn ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod y Garreg Las

Advertisements

Andrew Cusworth sydd wedi ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Y thema ar gyfer y fedal eleni oedd barddoniaeth Waldo Williams – un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20fed ganrif ac yn un o feibion amlycaf yr ardal leol.

Lluniodd y beirniaid restr fer o dri chyfansoddwr o’r 27 a ymgeisiodd ar gyfer y wobr. Y tri hynny oedd Andrew Cusworth, Gwenno Morgan a Claire Victoria Roberts.

Bu’r tri yn treulio chwe mis yn gweithio gyda’r cyfansoddwr a’r tiwtor, Nathan James Dearden, i ddatblygu gweithiau corawl newydd.

Roedd angen cyfansoddi dau gyfansoddiad byr – un ar gyfer côr lleisiau SATB ac un ar gyfer côr plant/ieuenctid (SA) yn seiliedig ar eiriau Waldo Williams.

Cafodd y cyfansoddiadau eu perfformio yn ystod y seremoni yn y pafiliwn ddydd Sadwrn.


BBC News

See also  CNC yn cyhoeddi hysbysiad pellach i safle tirlenwi dros arogl

Check Also

Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio ‘grym afresymol’ – gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am …

Brendon McCullum wants Kevin Pietersen to challenge methods in coaching role

McCullum said Pietersen was “shocked” when he first called him about “helping us challenge for …

Romanian driver who killed triathlete Rebecca Comins to be deported

Comins, 52, was nine minutes into a cycling time trial on the A40 near Raglan, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime