google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynnydd o 6000% o dipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd

Advertisements

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd eu bod yn trin tipio anghyfreithlon “yn ddifrifol iawn” ac wedi cynyddu eu hymdrechion “i fynd i’r afael â’r broblem”.

Ychwanegodd bod “pob digwyddiad yn cael ei gofnodi a’i ymchwilio’n briodol, a bod y cyngor yn gweithredu pan mae yna dystiolaeth”.

Dywedodd eu bod wedi dyrannu mwy o arian i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn eu cyllideb ar gyfer 2025/26 a bod ffigyrau o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025 yn dangos cynnydd o 165 i 2,390 o achosion gweithredu yn erbyn tipwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd a does yna ddim cyfiawnhad o gwbl dros wneud hynny.

“Rydym yn parhau i dargedu’r rhai sy’n dewis torri’r gyfraith a llygru ein hamgylchedd.

“Dyma pam rydym yn parhau i ariannu Taclo Tipio Anghyfreithlon Cymru, rhaglen a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac sy’n cefnogi awdurdodau lleol gyda’u gweithgareddau gorfodi, yn monitro lefelau tipio anghyfreithlon ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth.”


BBC News

See also  Champions League: Marcus Rashford at Barcelona but needs to work harder - Guillem Balague analysis

Check Also

Yr ysgolhaig a’r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed

Am flynyddoedd bu’n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda …

Wythnos gyntaf yn ôl yn yr ysgol teulu o Ddyffryn Nantlle

Mae Guto yn naw oed ac ym mlwyddyn pump yn Ysgol Bro Lleu. Efallai y …

Merthyr Tydfil football win over Atalanta made into theatre play

Director Neil Maidman attended the famous fixture at Penydarren Park. “It was absolutely amazing. I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime