google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynnal sioe Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig wedi’r cwbl

Ychydig ddyddiau ers canslo sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS) yn 125 oed mae’r gymdeithas wedi cyhoeddi y bydd hi’n cael ei chynnal wedi’r cwbl.

Cafodd y tro pedol ei gyhoeddi ganddyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol a bydd y sioe yn cael ei chynnal ar 8 a 9 Awst ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Y rheswm iddi gael ei chanslo oedd diffyg cystadleuwyr – roedd llai na 100 wedi cofrestru.

Bellach mae’r gymdeithas wedi dweud eu bod wedi derbyn “y lleiafswm o 350 o geisiadau ar gyfer y dosbarthiadau ‘Mewn Llaw’ (‘In Hand‘) erbyn y dyddiad cau”.

Mae’r dosbarthiadau hynny yn golygu bod ceffyl yn cael ei arwain gyda llaw yn hytrach na’i farchogaeth.

“Bydd amserlen wedi’i hadolygu yn cael ei rhannu’n fuan, ynghyd â manylion ar sut i ymuno,” medd llefarydd.

Y dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau ydy 24 Gorffennaf.

Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn heblaw am geisiadau ar y diwrnod ar gyfer dosbarthiadau Ceffyl y Flwyddyn (HOYS).

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Cau ffyrdd wrth i'r heddlu ymateb i ddigwyddiad ger pier Biwmares

Check Also

Vitor Matos’ Swansea City like Jurgen Klopp’s Liverpool – Blackburn boss Tony Mowbray

Swansea’s triumph means they are second in the Championship, with 26 points banked from their …

Cate McHugh wins The Voice UK after starting her career busking in Cardiff

A singer who began her career as a teenager busking on the streets of Cardiff …

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llandudno

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Llandudno. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime