google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y cyn dditectif sydd wedi troi’n awdur troseddol

Advertisements

Mae llwyddiant John yn syndod iddo ei hun. “Fyswn i byth wedi meddwl y byddwn i yn y sefyllfa yma,” meddai wrth chwerthin. Ond mae’n cydnabod bod y gefnogaeth gan ddarllenwyr a’r galw cynyddol yn ei yrru ymlaen i greu mwy.

Mae pob un o nofelau John wedi’i eu galw yn Dan… rhywbeth ac mae’n bwriadu parhau gyda’r gyfres yn yr un modd.

Pam felly y teitl gyda’r gair Dan? Mae’n esbonio’n syml: “Y teitl cyntaf oedd Dan y Wyneb a hwnnw osododd y patrwm, ac mae’r posibiliadau’n ddiderfyn wedi hynny.

“Fel arfer dwi ddim yn meddwl na chadarnhau’r teitl nes i mi orffen ysgrifennu y nfel, dyna’r dasg ddiwethaf i mi ydi penderfynnu a y teitl.”

Unwaith y bydd John wedi gorffen un nofel, mae’n symud ymlaen bron yn syth at y nesaf.

“Erbyn tua mis Awst fel arfer dwi’n meddwl am y plot ac unrhyw themau,” meddai.

“Wedyn byddai’n sgwennu drwy’r gaeaf a cheisio cael y nofel yn barod erbyn tua diwedd mis Mawrth, fyddai’n trïo sgwennu am rhyw chwe awr bob dydd a chael y penwythnosau i ffwrdd,” meddai.

Ond, er iddo fwriadu parhau i ysgrifennu a pheidio stopio ar nofel rhif 14, mae’n cyfaddef fod meddwl am blotiau newydd yn mynd yn anoddach.

“Mae hi yn mynd yn anoddach ond mae’r awch dal yno, ond do’n i byth yn meddwl y baswn i yn y sefyllfa yma ar ôl ymddeol, ond cyhyd fod y gofyn yno am fwy o nofelau yna dwi am gario mlaen.

“Dwi’n ddiolchgar iawn i gwasg Carreg Gwalch am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Doedd gen i bron dim profiad o sgwennu creadigol ar ôl gadael yr heddlu, dim ond sgwennu’n ffeithiol am achosion gwahanol, ond mae cael cyd-weithio dros y blynyddoedd gyda’r wasg wedi bod yn brofiad braf,” meddai.

Cadarnhad felly y bod hir oes i gymeriad Jeff Evans a mwy o straeon ditectif gan un oedd mor brofiadol am ddal lladron yn ystod ei yrfa.


BBC News

See also  Why credit cards might not be as bad as you think

Check Also

Regata Cei Newydd yn ‘gyfle i ddathlu ein treftadaeth’

Ar ddiwedd tridiau prysur, bydd y trefnwyr yn cychwyn paratoi ar gyfer regata 2027: “Mae …

Gabriel Osho injury concern leaves Cardiff City vulnerable – Brian Barry-Murphy

Head coach Brian Barry-Murphy says his Cardiff City squad is “vulnerable” after centre-back Gabriel Osho …

Rare Suffragette Christmas card discovered in Flintshire valued at £2,500

A rare Suffragette Christmas card from around 1910 has been discovered at a vintage roadshow. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime