google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynghrair y Cenhedloedd: Denmarc 1-0 Cymru

A17912a0 3d80 11f0 b6e6 4ddb91039da1.jpg

Advertisements

Fe wnaeth Cymru golli eu gêm agoriadol yn erbyn yr Eidal ac yn erbyn Denmarc ym mis Ebrill.

Wedi dwy gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden, a’r golled heno, mae gan Gymru ddau bwynt o bum gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd Cymru dan bwysau mawr am y 10 munud cyntaf, gyda Denmarc yn ennill sawl cic cornel a’n taro’r trawst o beniad y capten Pernille Harder.

Roedd rhaid i Rhian Wilkinson wneud newid cynnar oherwydd anaf i Mayzee Davies, gyda Alice Griffiths yn dod i’r maes yn ei lle.

Daeth Cymru’n agos iawn at sgorio’r gôl gyntaf, ond gyda dim technoleg llinell gôl ar gael, penderfynodd y dyfarnwr fod y bêl heb groesi’r llinell o ergyd Jess Fishlock.

Roedd y pwysau ar Gymru’n cynyddu tuag at ddiwedd yr hanner, ond fe sicrhaodd y gôl-geidwad Olivia Clark fod y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl gyda chwpl o arbediadau cryf.

Dechreuodd Denmarc yr ail hanner ar y droed flaen ac ar ôl cwpl o funudau daeth unig gôl y gêm wedi i’r capten Harder redeg heibio sawl chwaraewr a rhwydo i’r gornel isaf.

Gyda’r sgôr yn 1-0 fe lwyddodd Cymru i dyfu i mewn i’r gêm ychydig, ond roedd yr ail hanner yn ddigon cyfforddus i’r gwrthwynebwyr mewn gwirionedd.


BBC News

See also  Dyn a gafodd ei barlysu yn benderfynol o gerdded eto

Check Also

Cordia: ‘Anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael’

“Mae’n anodd credu’r flwyddyn ‘da ni wedi’i chael wrth edrych yn ôl. Os bysa rhywun …

Pryder am gyflenwadau dŵr ffynnon wrth i un fynd yn sych am y tro cyntaf

Yn ôl llywydd undeb ffermio NFU Cymru, mae pryderon yn ymestyn ymhell y tu hwnt …

Wales pushing the pain barrier in bid to improve

Wales kick-off their campaign against South Africa at Cardiff Arms Park on 18 September before …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime