google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Cyn-fatiwr Morgannwg a Lloegr, Hugh Morris, wedi marw

Advertisements

Mae Hugh Morris, y batiwr a gynrychiolodd dimau Morgannwg a Lloegr, wedi marw yn 62 oed.

Roedd e hefyd yn gyn-brif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Fe gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2022 ac fe adawodd ei rôl fel prif weithredwr Morgannwg yn 2023 er mwyn treulio amser gyda’i deulu wrth iddo gael triniaeth.

Fe gafodd y batiwr ddau gyfnod fel capten Morgannwg ac ef oedd wrth y llyw pan enillon nhw’r gynghrair undydd yn 1993.

Cynrychiolodd dîm Lloegr deirgwaith yn ystod ei yrfa a bu’n gapten ar dîm Lloegr A sawl gwaith gan gynnwys ar deithiau i Dde Affrica, India’r Gorllewin a Sri Lanka.

Ar ôl ymddeol fe dreuliodd y Cymro 16 o flynyddoedd yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.


BBC News

See also  Explorers take on unprecedented Arctic challenge

Check Also

Bafta Cymru 2025: Madfabulous leads nominations with six

Feature film Madfabulous – which tells the story of an eccentric 19th Century Welsh aristocrat …

Swansea City transfer news: Manchester City winger Jeremy Monga joins on loan

Monga is a product of Leicester’s academy and made his senior debut as a 15-year-old …

Colli Islwyn Owen: ‘Dagrau bob dydd am flwyddyn ond mae’n dod yn haws’

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori hon beri gofid Roedd 4 Medi 2024 yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime