google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru v Gogledd Iwerddon: Y gêm ‘gwbl ddibwynt’ does neb ei heisiau

Advertisements

“Mae’n gyfle i ennill cap arall,” meddai cyn-amddiffynnwr Cymru James Chester ar raglen Feast of Football BBC Cymru.

“Ac i’r bechgyn oedd ddim yn chwarae nos Iau, mae’n gyfle go iawn.”

Yn siarad ar yr un rhaglen, dywedodd Nia Jones, sydd hefyd yn gyn-amddiffynnwr Cymru: “Bydd pawb wedi dod at ei gilydd y tro yma yn gwybod eu bod nhw’n chwarae dwy gêm, ac mae’n siŵr y byddai pob un chwaraewr wedi gobeithio nad dyma’r gêm roedden nhw’n mynd i orfod chwarae, ond mae tîm Gogledd Iwerddon yn union yr un sefyllfa.

“Fe fydd hi’n anodd yn emosiynol, ac yn gorfforol hefyd.

“Yn amlwg, aeth y bechgyn trwy 120 munud a chiciau smotyn, felly fydden i ddim yn synnu pe bai cryn dipyn o newid i’r tîm.

“Dwi’n meddwl y bydd [Bellamy] yn ei weld fel cyfle da i brofi sawl chwaraewr sydd heb gael cymaint o gyfle yn ystod yr ymgyrch yma, i weld a ydyn nhw wir yn gallu chwarae yn y ffordd mae o’n gofyn iddyn nhw chwarae.

“Ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n cofio mai pobl ydyn nhw, a bydd pob un ohonyn nhw’n teimlo’n isel am ychydig ddyddiau, yn dal i ddioddef.

“Mae’n gêm emosiynol, a bydd chwaraewyr wedi teimlo pwysau disgwyliadau pawb ar eu hysgwyddau.”


BBC News

Views: 1

See also  'Dwi'n deall dibyniaeth': Y rhieni sy'n brwydro i gyfyngu ffonau

Check Also

Dyn 18 oed wedi marw ar ôl damwain ffordd yng Nghaerdydd

Mae dyn 18 oed o Drelái, Caerdydd wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 …

Dirwy o £500k i gwmni kebab am werthu cig oen oedd yn bennaf yn groen a braster

Dywedodd Reynolds fod anfonebau’n dangos mai ychydig iawn o gig oen oedd yn cael ei …

Hans Obma: Fy nhaith Gymraeg i Gwmderi

“Trwy’r flwyddyn, nes i ddosbarth ar-lein yn y bore. O’n i yn yr Unol Daleithiau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. artificial intelligence hedge fund.