google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dirwy o £500k i gwmni kebab am werthu cig oen oedd yn bennaf yn groen a braster

Advertisements

Dywedodd Reynolds fod anfonebau’n dangos mai ychydig iawn o gig oen oedd yn cael ei brynu gan y cwmni, ac yn hytrach ei fod yn prynu “cyfaint mawr o groen, braster, gafr” yn ogystal â “chynnyrch ‘cig’ o radd is nad yw’n gallu cael ei alw’n gig yn ôl y diffiniad cyfreithiol”.

Roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu cig oedd yn cael ei wneud yn fecanyddol, a oedd yn cynnwys yn bennaf “trim gwddf, trim cig dafad, dŵr a rhew”, ac roedd hyn wedyn yn cael ei gyfri a’i ddatgan fel cynnwys cig go iawn ar eu cynnyrch.

Dywedodd fod y cwmni wedi cymryd rhan mewn “cynllwyn oedd wedi ei drefnu yn anghyfreithlon” ac wedi “camarwain cyfanwerthwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid”.

Ychwanegodd Reynolds fod y canllawiau dedfrydu ar gyfer troseddau yn ymwneud â chwmni o faint Kismet yn darparu ystod o ddirwyon rhwng £15m a £24m, yr hyn a alwodd yn “gwbl anymarferol”.

Roedd Kismet Kebabs Ltd, o Chelmsford, eisoes wedi pledio’n euog i un cyhuddiad o dwyll drwy gamliwio pan ddychwelodd yr achos i’r llys ar gyfer dedfrydu.

Dywedodd Stuart Jessop, ar ran y cwmni, fod Kismet wedi’i sefydlu yn 2008 ac wedi cael ei redeg yn llwyddiannus am flynyddoedd lawer heb broblem, gan ddarparu cynnyrch da i gwsmeriaid ledled y wlad.


BBC News

Views: 2

See also  National service could leave Wales with £275m less, research says

Check Also

‘Labour’s call’ to pass Welsh budget, says first minister

In response Huw Thomas said the offer was not enough. “As it stands we will …

Cynnal sioe Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig wedi’r cwbl

Ychydig ddyddiau ers canslo sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig (WPCS) …

South Wales Police Police officers recognised for tackling chainsaw wielding man

Three police officers have been recognised for their bravery after responding to an incident involving …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Rebellion campers lwb vw campervan conversion.