google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymeradwyo argymhelliad i sefydlu ysgol Gymraeg newydd ym Mhowys

Advertisements

Cafodd y pryderon eu hystyried yn ystod cyfarfod y cabinet brynhawn Mawrth, gyda chynghorwyr yn dweud y bydd angen rhoi pecyn cymorth cynhwysfawr ar waith i gefnogi’r newid i’r model newydd, er mwyn lleihau’r effaith ar yr ysgolion a’r disgyblion yn ystod y cyfnod pontio.

Ar hyn o bryd mae 98 o ddisgyblion yn y ffrwd iaith Gymraeg ym mlynyddoedd 7 i 11 yn Ysgol Calon Cymru, ac mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd yr adroddiad i’r cabinet fod “pryder sylweddol” ymhlith y proffesiwn addysgu ynghylch ymrwymiad y cyngor i ddysgwyr sy’n astudio yn y Gymraeg, gyda’r adroddiad yn ychwanegu nad yw’r trefniant dwy ffrwd bresennol “yn bodloni dyheadau’r cyngor ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.”

Dywedodd y cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Powys sy’n Dysgu, ei bod hi’n amlwg ers sawl blwyddyn bod model dau safle Ysgol Calon Cymru yn achosi heriau.

“Mae’r cynnig cyffrous hwn yn cynrychioli’r cam nesaf yn y broses o gyflawni ein cynlluniau strategol ar gyfer addysg ym Mhowys” meddai.

Penderfynodd y cynghorwyr fwrw ymlaen â’r cynigion, gan bleidleisio yn unfrydol o blaid yr argymhelliad.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y gwaith cyfalaf sydd angen ei wneud i ddatblygu’r ysgolion wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda chyllideb o £107 miliwn ar draws y ddau safle.

Dywedwyd wrth y cabinet y rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu 65% o’r costau cyfalaf gyda Chyngor Powys yn ariannu’r 35% sy’n weddill.

Mae disgwyl i’r cyngor wneud penderfyniad terfynol ar y mater yn y flwyddyn newydd.


BBC News

Views: 0

See also  Aaron Ramsey: Where next for Cardiff City and Wales midfielder?

Check Also

Senedd election postal vote error sees 1,300 Cardiff residents without ballot papers

On Wednesday, a spokesperson for Cardiff council said: “Following further discussions with the local authority’s …

Newport County: What next for Exiles and Leicester hero Christian Fuchs?

But if Fuchs is considering his next managerial move, he is certainly playing his cards …

Y Cymro a gafodd goffi gyda Hitler

Hyd at yn ddiweddar, perthyn i droednodiadau hanes a wnâi Conwell-Evans. Ond yn 2022 cyhoeddodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.