google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Cymro a gafodd goffi gyda Hitler

Advertisements

Hyd at yn ddiweddar, perthyn i droednodiadau hanes a wnâi Conwell-Evans. Ond yn 2022 cyhoeddodd yr hanesydd Charles Spicer y gyfrol Coffee with Hitler, am ymdrechion criw bychan o ddelfrydwyr i osgoi rhyfel arall yn ystod y 1930au.

Eu nod aruchel, os naïf, oedd ceisio gwareiddio’r Natsïaid drwy gyfeillgarwch a dwyn yr Almaen unwaith eto yn rhan o gymdeithas y cenhedloedd gwâr. Mae gan Conwell-Evans ran ganolog yn y stori.

Un o Gaerfyrddin oedd Thomas Philip Conwell-Evans. Brodor o Gynwil Elfed, a dilledydd gyda’i siop yn 44 Heol y Brenin, oedd ei dad Thomas Conwil Evans, oedd hefyd yn godwr canu a diacon yng nghapel Penuel y Bedyddwyr.

Ar ôl cyfnodau byr o astudio yn Ffrainc a’r Almaen, aeth Conwell-Evans i Goleg yr Iesu Rhydychen yn 1912 gan raddio mewn Iaith a Llenyddiaeth Fodern a Chanoloesol yn 1915. Roedd yn heddychwr digymrodedd ac ar y chwith yn wleidyddol. Yn 1924, fe’i penodwyd yn ysgrifennydd gwleidyddol i’r aelod seneddol Llafur Noel Buxton.

Yn ystod y 1920au, daeth Conwell-Evans yn gryn arbenigwr ar faterion rhyngwladol, ac yn 1929 cyhoeddodd lyfr o’r enw The League Council in Action: a study in the methods employed by the council of the League of Nations to prevent war and to settle international disputes.

Yn amlwg, roedd wedi ei ysbrydoli gan ddelfrydiaeth yr 1920au a’r gobaith o osgoi rhyfel drwy drefn ryngwladol newydd o dan awdurdod Cynghrair y Cenhedloedd.

Yn 1930 fe’i noddwyd gan Buxton i ymweld â Dwyrain Prwsia a threuliodd y blynyddoedd 1932-4 – y cyfnod a welodd Hitler yn dod i rym – yn darlithio ym Mhrifysgol Königsberg.

Dyfnhaodd y profiad hwnnw ei gariad dwfn tuag at ddiwylliant yr Almaen a chadarnhaodd ei farn fod y wlad wedi’i thrin yn llawdrwm yng Nghytundeb Versailles.

Penderfynodd i ymroi â’i holl egni i rwystro rhyfel arall rhwng Prydain a’r Almaen.


BBC News

Views: 1

See also  Fan steps in after referee falls injured at Cardiff City game

Check Also

Cymru Premier: Wales fail to regain European place after poor results

Confirmation of Wales’ allocation for the 2028-29 season came after The New Saints were knocked …

Cymru Premier: Penybont to ban any fans guilty of discrimination

“We have worked extremely hard to ensure that the club is family friendly and a …

Swansea City: Liam Cullen’s Leicester City move leaves gap after 19 years

Liam Cullen’s Swansea City exit brings to an end a 19-year association with the club …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 20 mg/ml nicotine.